Croso cynnes i'r flwyddyn newydd yng Nghymru
Mae Cymru wedi cofnodi'r Dydd Calan cynhesaf ar record gyda’r tymheredd uchaf yng ngogledd Cymru.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cofnodi tymheredd anarferol o uchel am y cyfnod dros nos.
Roedd y tymheredd dros nos yn Y Bala wedi cyrraedd 16.5°C sy’n record newydd.
Cyrrhaeddodd y tymheredd ym Mhenarlâg, Sir Fflint 15.2°C fore Sadwrn a fydd yn record pan fydd yn cael ei gadarnhau.
Dywedodd Alex Humphreys, cyflwynydd tywydd S4C: "Y record flaenorol am Ddydd Calan, oedd 15.0°C yn Y Trallwng ym 1922, a chyn hynny 15.0C ym Mae Colwyn ym 1910.
"Y record ar gyfer y Nos Galan mwynaf yng Nghymru oedd 14.8°C oedd ym Mae Colwyn yn 2011"
Mae’r tymheredd anarferol ar gyfer y cyfnod yma o ganlyniad i wyntoedd cynnes yn dod ar draws môr Iwerydd
Ychwanegodd Alex: "Ar hyn o bryd, rydan ni mewn llif aer o’r de orllewin. Mae’r jetlif – sef y llif o wyntoedd cryfion sy’n rhedeg uwchben y ddaear – yn gwthio’r aer mwyn draw atom ni o’r Caribî, a dyna sy’n gyfrifol am y tymereddau mwyn.
"O ran Prydain gyfan, y record am y Dydd Calan cynhesaf cyn hyn oedd 15.6°C yn Bude ym 1916."
Record bosib yng Nghymru ⚠📈
— S4C Tywydd (@S4Ctywydd) January 1, 2022
Roedd hi'n 15.2C ym Mhenarlâg am 11:00 y bore 'ma - sy'n record bosib am y Dydd Calan mwynaf yng Nghymru.
Y record flaenorol oedd 15C yn Y Trallwng ym 1922 a 15C ym Mae Colwyn ym 1910.
15.6C yw'r record ar draws y Deyrnas Unedig. pic.twitter.com/PUpKNk4jSB