Rhagor o doriadau i wasanaethau trenau Cymru oherwydd amrywiolyn Omicron
01/01/2022Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi toriadau ychwanegol i’w gwasanaethau yn yr wythnosau nesaf oherwydd “cynnydd sylweddol mewn absenoldebau staff” oherwydd yr amrywiolyn Omicron.
Roedd yna amserlen ddiwygiedig i drenau cyn y Nadolig ble roedd gostyngiad o 10-15 y cant er mwyn gostwng y posibilrwydd o ganslo gwasanaethau ar fyr rybudd.
Ond ychydig ddyddiau yn ddiweddarach mae gostyngiadau ychwanegol yn cael eu gwneud.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cyfaddef bod niferoedd y staff sy’n absennol yn cynyddu.
Darllenwch y stori yn llawn yma.
