Arthur Labinjo-Hughes: Cyfeirio dedfrydau tad a llysfam i'r Llys Apêl am fod yn rhy ysgafn

Mae’r dedfrydau a roddwyd i dad a llysfam Arthur Labinjo-Hughes wedi eu cyfeirio at y Llys Apêl am fod yn rhy ysgafn.
Bu farw'r bachgen chwech oed tra yng ngofal ei lysfam, Emma Tustin, ym mis Mehefin eleni.
Cafwyd Tustin, 32, yn euog o lofruddio Arthur ac fe’i dedfrydwyd hi i garchar am oes gydag isafswm o 29 mlynedd.
Dedfrydwyd ei dad, Thomas Hughes, 29, i garchar am 21 mlynedd ar ôl iddo gael yn euog o ddynladdiad.
Yn ôl Sky News, dywedodd Twrne Cyffredinol y DU, Suella Braverman ddydd Gwener bod y dedfrydau yn rhy ysgafn ac mae wedi penderfynu eu cyfeirio at y Llys Apêl.
Nid oes dyddiad wedi'i osod am y gwrandawiad hyd yn hyn.
Darllenwch y stori yn llawn yma.