11 o farwolaethau a 10,393 yn rhagor o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi
Mae 10,393 yn rhagor o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi yn ôl ystadegau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd 11 o farwolaethau newydd eu cofnodi ac mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth yn ystod y saith diwrnod hyd at 26 Rhagfyr yn 1,190.2.
Bellach mae 632,125 achos positif wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig, gyda 6,567 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r haint wedi eu cofnodi yng Nghymru.
Mae'r gyfradd o achosion dros saith diwrnod ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Merthyr Tudful (cyfradd 1,450.5 ymhob 100,000 hyd yma), Caerdydd (cyfradd 1,405.0 ymhob 100,00 yma) a Rhondda Cynon Taf (cyfradd 1,383.5 ymhob 100,00).
Hyd yma mae 2,490,223 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,302,282 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,626,146 o bobl wedi derbyn 'hwblyn', neu ddos ychwanegol ar ôl eu dosau cyntaf.
Diweddarwyd dangosfwrdd gwyliadwriaeth cyflym COVID-19:
— Iechyd Cyhoeddus Cymru (@IechydCyhoeddus) December 31, 2021
💻 https://t.co/2muolAqkqr
📱 https://t.co/A65oxySxhi pic.twitter.com/iGB8TWFAe8