Cymru i roi pedair miliwn o brofion llif unffordd i'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr

Fe fydd Llywodraeth Cymru'n darparu pedair miliwn o brofion llif unffordd i'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.
Dywed Golwg360 fod gwyddonwyr dros Glawdd Offa'n prydferu y gall pobl gymdeithasu yno dros y Flwyddyn Newydd heb wneud profion o achos prinder yn nifer y profion sydd ar gael.
Daw'r cyhoeddiad wrth i brif weinidog Cymru, Mark Drakeford, ddweud fod y galw am brofion PCR a phrofion llif unffordd yn parhau i gynyddu yma, ac mae wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed.
Dywedodd Mr Drakeford fod gan Gymru "stoc sylweddol o brofion llif unffordd, sy'n ddigonol ar gyfer ein hanghenion dros yr wythnosau nesaf.
"Mae'r Gweinidog Iechyd wedi cytuno heddiw i fenthyg pedair miliwn yn rhagor o brofion o'r fath i NHS Lloegr, gan ddod â'r cymorth hwnnw sydd o fudd i bawb i 10 miliwn o brofion llif unffordd", ychwanegodd.
Darllenwch y stori'n llawn yma.