Newyddion S4C

'Rhyddhad' i ddioddefwyr ar ôl i Ghislaine Maxwell ei chael yn euog o droseddau rhyw

29/12/2021
ghislaine maxwell

Mae dynes oedd â chysylltiadau agos iawn gyda theulu Brenhinol Lloegr, Ghislaine Maxwell, wedi ei chanfod yn euog o droseddau rhyw mewn llys yn Efrog Newydd.

Cafodd Maxwell, 60, ei harestio ym mis Gorffennaf 2020, a’i chyhuddo o droseddau yn ymwneud â cham-drin merched yn eu harddegau yn rhywiol, a hynny mewn cysylltiad â’r dyn busnes, Jeffrey Epstein.

Roedd gan Epstein gysylltiadau gyda’r Tywysog Andrew o Loegr a chyn-arlywyddion yr UDA, Bill Clinton a Donald Trump, ond fe laddodd ei hun mewn carchar yn Efrog Newydd yn 2019, tua mis ar ôl iddo gael ei arestio am droseddau rhyw.

Mae'r rheithfarn yn erbyn Maxwell yn dod wedi achos 13 diwrnod, lle glywyd tystiolaeth gan 33 o dystion.

'Neb uwchlaw'r gyfraith'

Yn siarad wedi'r rheithfarn, dywedodd Annie Farmer, un o'r menywod wnaeth dystio yn erbyn Maxwell: "Rwy'n teimlo gymaint o ryddhad ac mor ddiolchgar fod y rheithgor wedi cydnabod [ei] phatrwm o ymddygiad rheibus.

"Gobeithio y bydd y rheithfarn yn dod â chysur i bawb sydd ei angen ac yn dangos nad oes unrhyw un uwchlaw'r gyfraith," meddai. 

Mae ffynonellau yn adrodd na ddangosodd Maxwell fawr o emosiwn yn y llys. 

Dywedodd ei theulu mewn datganiad yn ddiweddarach: "Rydyn ni'n credu fod ein chwaer yn ddieuog - rydyn yn siomedig gyda'r rheithfarn. Rydyn ni eisoes wedi cychwyn apêl heno ac rydyn ni'n credu y caiff ei chanfod yn ddieuog yn y pen draw."

Fe fydd Maxwell yn cael ei dedfrydu yn ddiweddarach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.