£25,000 i adfer capel Cymraeg fel rhan o gyllid £7m i’r sector gwirfoddol

Bydd capel Cymraeg yng nghanol Caerdydd yn derbyn £25,000 i gynnal gwaith adfer fel rhan o gyllid £7m gan Lywodraeth Cymru i helpu’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae £7m y flwyddyn wedi cael ei glustnodi i gefnogi’r sector yn ystod tymor presennol y llywodraeth, sy’n ymrwymiad o £21m dros y tair blynedd nesaf.
Cafodd Y Tabernacl, sy’n adeilad cofrestredig Gradd II yn yr Hayes, ei adeiladu’n gyntaf yn 1821 ac yna ai ail-adeiladu yn 1865.
Mae’r cyllid yn cael ei gyhoeddi bob tri mis ac yn cael ei rhannu’n ddau, i gynlluniau o dan £25,000 a hyd at £250,000 a’r rhai o’r derbynwyr eraill yw:
Hyd at £250,000:
- £250,000 ar gyfer Krishna Cymru, Caerdydd i ailwampio a throi’r adeilad rhestredig Gradd II yn safle treftadaeth ddiwylliannol a chanolfan les gymunedol i Dre-biwt, sy’n hybu lles corfforol a meddyliol drwy hyfforddiant hwylus mewn ioga a myfyrdod
- £250,000 ar gyfer Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni, Caerdydd i greu canolfan iechyd a lles
- £250,000 ar gyfer Newport Mind i gwblhau’r cam nesaf o’r prosiect, sef creu canolfan addas gydag ystafelloedd ymgynghori, hyfforddi ac i grwpiau, ac ardal noddfa ar y llawr cyntaf
Hyd at £25,000:
- £25,000 ar gyfer Mentoring for All, Caerdydd i adnewyddu ac atgyweirio’r to, y gegin, y toiledau ac i osod drysau a ffenestri newydd
- £25,000 ar gyfer Grŵp Cymunedol yr Ysgoldy, Ceredigion i ddarparu ardal barcio ddiogel a chynaliadwy, nad yw ar y ffordd, gan gynnwys plannu coed a pherthi cynhenid, a fydd yn creu amgylchedd i fflora a ffawna, yn hwb i fioamrywiaeth ac yn lleihau ôl-troed carbon y prosiect
- £25,000 ar gyfer Clwb Rygbi Rhuthun, Sir Ddinbych i adnewyddu cyfleusterau’r clwb drwy ddarparu mwy o le i eistedd, cegin newydd a diweddaru’r toiledau/cyfleusterau’r ystafelloedd newid i sicrhau hwylustod mynediad i bawb
- £20,000 ar gyfer Ymddiriedolaeth Gymunedol y Fenni, Sir Fynwy i osod paneli solar yn y ganolfan gymunedol fel rhan o’r cynlluniau i fod yn sero net erbyn 2030
- £25,000 ar gyfer Sied Nwyddau Llanelli Goods Shed, Sir Gaerfyrddin i greu caffi cymunedol ac ardal dehongli treftadaeth
- £25,000 ar gyfer Tabernacl Caerdydd, Caerdydd, i atgyweirio’r adeilad rhestredig Gradd II, gan gynnwys y to fflat, y gwaith cerrig a’r goleuadau ar y to
- £8,000 ar gyfer Bedwas Rugby 2011, Caerffili i osod system llifoleuadau carbon isel newydd
- £25,000 ar gyfer plwyf Abercynon, Rhondda Cynon Taf i osod cegin broffesiynol er mwyn datblygu caffi mentergarwch cymdeithasol
Darllenwch y stori’n llawn yma.