Cyfradd achosion Covid-19 wedi cynyddu’n sylweddol yng Nghymru

28/12/2021
Prawf Llif Unffordd Covid-19

Mae 12,378 yn rhagor o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi yn ôl ystadegau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cafodd tair marwolaeth newydd eu cofnodi ac mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod yn 1,004.1.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn adlewyrchu nifer yr achosion cafodd eu cadarnhau dros gyfnod o 48 awr, ond sydd ddim yn cynnwys Dydd Nadolig na Dydd San Steffan. 

Mae’r gyfradd wedi dringo’n sylweddol dros y bythefnos ddiwethaf. Rhwng 10 a 16 Rhagfyr roedd y gyfradd yn 583.2.

Bellach mae 28.2% o brofion yn dod yn ôl gydag o leiaf un achos positif. 

Mae 594,753 achos positif wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig erbyn hyn, sydd gyfystyr ag un ymhob pump o boblogaeth Cymru.

Bellach mae 6,551 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r haint wedi eu cofnodi.

Mae'r gyfradd ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Caerdydd (1,335.5), Bro Morgannwg (1,121.4) a Pen-y-Bont ar Ogwr (1,094.2).

Hyd yma mae 2,486,737 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,296,242 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,490,668 o bobl wedi derbyn 'hwblyn', neu ddos ychwanegol ar ôl eu dosau cyntaf. 

Gallwch ddod o hyd i'r ffigyrau diweddaraf ar nifer yr achosion, marwolaethau a brechiadau ar ddashfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.