Iwilldoit yn ennill Grand National Cymru 2021
27/12/2021
Iwilldoit yw'r ceffyl buddugol yn ras Grand National Cymru 2021 yng Nghas-gwent ddydd Llun.
Y marchog Stan Sheppard oedd yn ei reidio.
Sam Thomas o Gaerdydd oedd yr hyfforddwr a aeth â'r fuddugoliaeth yng Nghae Ras Cas-gwent.
Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i geffyl a gafodd ei hyfforddi yng Nghymru ennill y ras.
Highland Hunter ddaeth yn ail, gyda Truckers Lodge yn gorffen yn y trydydd safle.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans