Cynlluniau i ganiatáu tafarndai i aros ar agor yn hirach ar gyfer jiwbilî y Frenhines

Fe allai tafarndai, clybiau nos a bariau gael caniatâd i aros ar agor yn hirach yn ystod penwythnos gŵyl y banc flwyddyn nesaf i nodi jiwbilî platinwm y Frenhines.
Mae The Guardian yn dweud y gallai busnesau ar draws Cymru a Lloegr barhau i weini am ddwy awr ychwanegol i ddathlu 70 mlynedd o’r frenhiniaeth fel rhan o’r ddeddf drafft.
Dywed fod yr ysgrifennydd cartref Priti Patel yn ceisio ymestyn oriau trwyddedig o 23:00 i 01:00 rhwng dydd Iau 2 Mehefin i ddydd Sadwrn 4 Mehefin.
Mae adran 172 o’r Ddeddf Trwyddedu 2003 yn caniatáu i Priti Patel osod gorchymyn gerbron gweinidogion i roi caniatâd i leoliadau aros ar agor yn hirach i nodi achlysuron sydd o arwyddocâd eithriadol.
Darllenwch y stori’n llawn yma.