Gŵr a gwraig o Sir Gaerfyrddin wedi marw mewn damwain yn Kenya

25/12/2021
S4C

Mae gŵr a gwraig o Sir Gaerfyrddin wedi marw mewn damwain car tra'r oeddynt ar wyliau yn Affrica. 

Bu farw Stuart Herbert a’i wraig Maggie dydd Sul, 19 Rhagfyr tra'n teithio yn Kenya.

Roedd y ddau yn briod ers pum mlynedd ac wedi hedfan i'r wlad i ddathlu’r Nadolig yno.

Digwyddodd y ddamwain tra roeddynt yn teithio ar y ffordd i Malindi, mewn parc safari ger y ffin gyda Tanzania. 

Mae teulu Mr a Mrs Herbert, a Chlwb Rygbi Carmarthen Athletic wedi rhoi teyrnged i’r ddau.

Bu Mr Herbert yn gweithio fel arolygydd i Estyn a chyn hynny roedd yn bennaeth ar Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yng Nghaerfyrddin.

Roedd Maggie Herbert yn gweithio i elusen oedd yn helpu cymunedau ethnig difreintiedig yn Kenya, lle cafodd ei geni. 

Dywedodd teulu Mr Herbert mewn teyrnged iddo: “Roedd Stuart yn gymeriad mor hoffus, roedd bob amser yn llawn bywyd ac uchelgais, a byddai'n goleuo ystafell yn ei ffordd unigryw. Nid oedd gan Stuart asgwrn cas yn ei gorff, dim ond cariad at ei gyd-ddyn."

Roedd Maggie Herbert yn "cymryd camau breision i fod yn rhan o gymuned Caerfyrddin a dod yn aelod poblogaidd iawn ohoni.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor wrth Newyddion S4C eu bod yn cynnig cefnogaeth i deulu unigolyn o Brydain yn dilyn digwyddiad yn Nairobi a'u bod mewn cysylltiad gyda'r awdurdodau lleol yn y wlad.

Llun Teulu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.