Llywodraeth Cymru wedi talu £45m mewn iawndal ar gyfer ffordd yr A465

Mae Llywodraeth Cymru wedi talu £45.6 miliwn mewn iawndal i’r bobl sydd wedi dioddef yn sgil y gwaith ar ffordd Blaenau’r Cymoedd, yr A465.
Mae’r gwaith o wella’r A465, sy’n rhedeg o Sir Henffordd i Gastell-nedd, wedi parhau ers bron i 20 mlynedd.
Yn ystod y cyfnod yma, meddai The National, mae’r llywodraeth wedi talu iawndal i ddwsinau o bobl sydd un ai wedi colli tir, neu fod eu tir wedi ei ddibrisio gan y gwaith.
Ers y flwyddyn 2000 mae o leiaf 91 o bobl wedi hawlio arian, gyda’r taliad mwyaf yn £10.7m a’r taliad lleiaf yn £2.38.
Cafodd y ffigyrau eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth oedd yn gofyn faint o arian gafodd ei dalu drwy’r Ddeddf Iawndal Tir 1973 mewn cysylltiad â gwaith yr A465.
Mae gwaith ar ran olaf y ffordd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gyda’r disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn 2025.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod “iawndal i unigolion a busnesau sy'n cael eu heffeithio gan gynlluniau ffyrdd yn cael ei dalu yn unol â chyfundrefnau statudol ac fel arfer yn seiliedig ar gyngor pobl broffesiynol sy'n cynrychioli'r bobl dan sylw."
Darllenwch y stori’n llawn yma.