Newyddion S4C

Matthew Rhys: 'Pobl yn arfer dweud bod siarad Cymraeg ddim yn cŵl’

24/12/2021
matthew rhys

Mae’r actor Matthew Rhys wedi dweud ei fod yn teimlo dyletswydd i geisio ysbrydoli’r to ifanc i barhau i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.

Er ei fod bellach yn byw yn Efrog Newydd, mae’r brodor o Gaerdydd yn dweud ei fod yn ceisio defnyddio ei sefyllfa i “annog a magu'r genhedlaeth nesaf”.

Ac yntau wedi serennu mewn dramâu poblogaidd fel The Americans a Perry Mason, mae Rhys wedi rhoi sylw i nifer o ymgyrchoedd Cymreig, megis Het i Helpu gan yr Urdd.

Ond mewn cyfweliad gydag Elin Fflur ar raglen Sgwrs Dan y Lloer, mae’n dweud nad oedd yr iaith Gymraeg wastad yn cael ei weld fel rhywbeth “cŵl” wrth iddo dyfu fyny.

“Fin cofio pan o ni’n tyfu lan, cyn yr adeg Cŵl Cymru, oni’n cael amser caled ambell waith.

"Oedd pobl yn dweud bod Cymru a siarad Cymraeg ddim yn cŵl."

Mae’n ychwanegu ei fod yn gobeithio gwneud unrhyw beth all newid y syniad hynny.

“Os os rywbeth allai neud, i helpu’r ffaith – yn enwedig hefo’r iaith.

“Pan oni’n tyfu lan, oni’n hoffi gweld y bobl na’n dweud, ie siaradwch Gymraeg. Pobol oni’n edmygu. Felly dwi’n teimlo dyletswydd o’r fath arna i.”

'Cadw fy nhroed yn yr henwlad'

Mae’r actor yn dweud fod gwneud hyn yn ei helpu o i gadw’r cysylltiad gyda’i wreiddiau Cymreig hefyd.

“Yn hunanol, fi’n cael rhywbeth mas ohono fe, fi’n teimlo fel bo fi’n cadw fy nhroed yn yr henwlad.”

Yn ddiweddar roedd Rhys ymhlith y rhai wnaeth gefnogi ymgyrch yng Ngheredigion i brynu Tafarn Dyffryn Aeron yn Ystrad Aeron.

Image
Ryan Reynolds a Rob McElhenney
Dywedodd Matthew Rhys fod unrhyw beth sy'n rhoi Cymru ar lwyfan rhyngwladol yn 'help enfawr'. 

Gyda’r sgwrs yn troi at berchnogion mwyaf diweddar Clwb Pêl-droed Wrecsam, roedd Rhys yn llawn canmoliaeth o Ryan Reynolds a Rob McElhenney. 

“Yn barod pan ddigwyddodd e, oedd lot o’n ffrindie i’n gofyn: What’s Wrexham?

“Mae’r sgwrs wedyn yn ehangu i Gymru, felly heb os mae be maen nhw wedi'i wneud yn anhygoel.

“Yn enwedig yn y ffordd mae Rob wedi cymryd at yr iaith. Mae’n wych o beth – ac mae’r momentwm bach, pan ni’n cael ei roi ar lwyfan ryngwladol yn helpu ni’n enfawr,” meddai.

Nid Reynolds a McElhenney yw’r unig sêr Hollywood sydd yn cefnogi byd chwaraeon y dref serch hynny.

Yn ddiweddar fe gyhoeddodd Rhys, ynghyd â dau aelod arall o Gymdeithas Cymry Efrog Newydd, mai nhw fyddai noddwyr newydd Tîm Rygbi Merched Wrecsam. 

Gallwch wylio cyfweliad Matthew Rhys ar Sgwrs Dan y Lloer, nos Lun am 21:00 ar S4C. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.