Prif Weinidog yn diolch i'r 'fyddin frechu' yn ei neges Nadolig
Prif Weinidog yn diolch i'r 'fyddin frechu' yn ei neges Nadolig
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi diolch i'r "fyddin frechu", gwirfoddolwyr ac i weithwyr y gwasanaethau brys yn ei neges Nadolig.
Yn ei neges flynyddol, dymunodd y Prif Weinidog Nadolig "diogel, heddychlon a hapus" i bobl Cymru.
Ond, pwysleisiodd fod "cysgod y pandemig yno o hyd" dros gyfnod y Nadolig eleni.
Daw hynny wedi i'r nifer yr achosion o'r amrywiolyn Omicron yng Nghymru barhau i gynyddu.
Mae astudiaethau cynnar gan wyddonwyr yn awgrymu bod Omicron yn lledaenu ynghynt na Delta, ond fod y risg o orfod mynd i'r ysbyty yn is.
Dyma'r eildro i'r Prif Weinidog gyfarch y genedl yr wythnos hon a hynny wedi iddo gyhoeddi cyfyngiadau newydd i reoli'r coronafeirws o Ddydd San Steffan.
Bydd clybiau nos yn cau a gemau chwaraeon yn cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig.
Hefyd, bydd y rheol chwe pherson yn dychwelyd i leoliadau lletygarwch, a chosbau os daw mwy na 30 o bobl at ei gilydd dan do neu 50 o bobl yn yr awyr agored.
Ond, serch hynny, dywed Mr Drakeford yn ei neges fod modd "edrych ymlaen at y dyfodol gyda gobaith ac optimistiaeth".
'Rhannu eich teimladau'
Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig - y brif wrthblaid yn y Senedd - Andrew RT Davies hefyd wedi dymuno Nadolig Llawen i Gymru.
Dywedodd fod y Nadolig hwn yn un sy'n cynnwys penderfyniadau anodd i nifer ond fod y wlad mewn sefyllfa well i'r llynedd.
Diolchodd i weithwyr y GIG a'r fyddin am eu gwaith ac i wirfoddolwyr am eu cefnogaeth i'r ymdrech frechu.
Yn ystod misoedd yr Hydref, camodd Mr Davies yn ôl o'r byd gwleidyddol am ychydig er mwyn gwella o effeithiau'r ffliw a'r coronafeirws ar ei lesiant meddyliol.
Diolchodd i bawb ar draws y sbectrwm gwleidyddol am eu negeseuon caredig ac yn arbennig i'w wraig a phlant am eu cefnogaeth.
Dywedodd Andrew RT Davies: "Mae'r stigma ynghylch iechyd meddwl wedi atal nifer o bobl - yn enwedig dynion, gan gynnwys fy hun - rhag mynd i'r afael â'u teimladau a'u hiechyd meddwl.
"Ond dwi'n gobeithio os yw pobl ond yn cymryd un peth o fy neges heddiw, bod hynny yn gyngor i rannu eich teimladau, a pheidiwch â bod yn ofn cael y cymorth a'r gefnogaeth rydych ei angen."
Yn ei neges, rhoddodd Mr Davies deyrnged i'r Aelodau Seneddol James Brokenshire a Syr David Amess a fu farw eleni.