Rhai wedi galw 999 i gael rhagolygon y tywydd
Dant wedi'i dorri, dim disel yn y car ac eisiau gwybod y rhagolygon tywydd i gerdded i fyny'r Wyddfa.
Dyna yw rhai o'r enghreifftiau o alwadau 999 mae Heddlu'r Gogledd wedi'u derbyn dros yr wythnosau diwethaf.
Daw'r wybodaeth yn amlwg wrth i Heddlu Gogledd Cymru dynnu sylw at eu hymgyrch #ReduceDemand i helpu i leihau nifer y galwadau diangen ac amhriodol a wneir i'r Ganolfan Gyfathrebu yn Llanelwy ar drothwy un o'u hamseroedd prysuraf o'r flwyddyn.
Mae'r Uwch-arolygydd Mark Williams o Ystafell Reoli'r Heddlu yn annog pobl i wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio'r llinell 999 yn briodol, a dim ond yn cysylltu â'r llinell ddi-argyfwng neu sgwrs fyw ar y we os yw'n fater i'r heddlu.
Argyfwng
Dywedodd: "Mae pob galwad ddiangen i ni yn lleihau'r amser sydd ar gael ar gyfer galwadau sydd ar gyfer materion plismona go iawn. Mae hefyd yn wastraff amser gweithredwyr ac yn tagu'r system dan bwysau 999.
"Yn draddodiadol mae'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ymhlith yr adegau prysuraf o'r flwyddyn i'r Llu Heddlu ac rydym yn gofyn i bobl ddefnyddio'r system 999 yn ddoeth i helpu i sicrhau na chollir argyfwng cyfreithlon dros gyfnod yr ŵyl.
"Mae ffonio 999 – sy'n llinell frys, ar gyfer materion dibwys megis adrodd am gar heb ddrych adain neu i adrodd am sbectol ar goll yn wastraff adnoddau llwyr, ac o bosibl gallai atal galwad frys bywyd neu farwolaeth go iawn drwodd."
"Nid mater i'r heddlu yw ffonio 999 oherwydd pryder ynglŷn â ffrind meddw. Er bod gan y sawl a ffoniodd ni bryder gwirioneddol am eu ffrind, ni allwn ddarparu gwasanaeth tacsi i gael pobl adref yn ddiogel.”
Gwrandewch ar fwy yma.