Newyddion S4C

‘Gallai 16,000 o blant yn y DU fod yn agored i gam-drin domestig dros y Nadolig’

The Guardian 23/12/2021
Llun Achub y plant

Gallai bron i 16,000 o blant yn y Deyrnas Unedig fod yn agored i gam-drin domestig y Nadolig hwn, yn ôl un elusen.

Mae achosion trasig Arthur Labinjo-Hughes a Star Hobson, dau blentyn ifanc a lofruddiwyd yn eu cartrefi yn ddiweddar, wedi tynnu sylw at gam-drin domestig plant.

Dywedodd y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar (EIF), elusen sy'n cefnogi ymyrraeth gynnar effeithiol i wella bywydau plant, y gallai cyfnod y Nadolig achosi straen i deuluoedd, a allai arwain at fwy o gam-drin domestig.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.