Newyddion S4C

Gohirio gemau Cynghreiriau pêl-droed Cymru dros gyfnod yr ŵyl

22/12/2021
Pel-droed football

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru - yr FAW - wedi penderfynu atal gemau Cynghreiriau Cymru dros gyfnod y Nadolig

Bydd y penderfyniad yn effeithio cynghreiriau’r Cymru Premier, Cymru North a South, yn ogystal â chynghreiriau Ardal a chynghreiriau’r merched.

Fe ddaw’r newyddion yn dilyn cyhoeddiad gan Llywodraeth Cymru ddydd Mercher i gyfyngu ar y nifer o bobl sy’n gallu mynychu digwyddiadau chwaraeon i 50, oherwydd cynnydd mewn achosion Omicron o Covid-19.

Dywedodd y gymdeithas bod y penderfyniad wedi ei wneud yn dilyn ymgynghoriad gyda’r cynghreiriau a'r clybiau.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cydnabod y golled sylweddol o incwm y bydd clybiau yn y cynghreiriau uchod yn ei wynebu oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Ychwanegodd y gymdeithas bod y penderfyniad wedi ei wneud er budd y clybiau. 

“I leihau ar yr incwm sy’n cael ei golli ac i roi’r cyfle gorau i gefnogwyr barhau i allu gwylio eu clybiau, roedd Bwrdd y Gynghrair Genedlaethol yn teimlo bod atal y cystadlaethau dros gyfnod yr ŵyl er budd gorau’r gêm.

“Bydd Bwrdd y Gynghrair Genedlaethol yn cyfathrebu â’r cymdeithasau fesul ardal fel y gallwn wneud penderfyniad gwybodus am y cynghreiriau a’r cystadlaethau sydd o dan eu gorchwyl.”

​​​​​​Mae Llywodraeth Cymru wedi hysbysu cyrff llywodraethu chwaraeon y bydd eu rheoliadau coronafeirws, gan gynnwys chwarae chwaraeon y tu ôl i ddrysau caeedig, yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.

Bydd Bwrdd y Gynghrair Genedlaethol yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac ar hyn o bryd mae'n bwriadu adolygu’r penderfyniad ar neu cyn 9 Ionawr 2022.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.