Newyddion S4C

Haelioni i fanciau bwyd ‘ddim yn gyson’ wedi’r Nadolig

23/12/2021

Haelioni i fanciau bwyd ‘ddim yn gyson’ wedi’r Nadolig

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y teuluoedd sy’n defnyddio banciau bwyd eleni yn ôl elusen The Trussell Trust.

Dywedodd yr elusen fod cynnydd o 11% yn nifer y parseli bwyd brys gafodd eu dosbarthu o fewn chwe mis yn y Deyrnas Unedig eleni o’i gyhmaru â llynedd.

Yn ôl Banc Bwyd Arfon yng Ngwynedd mae’r flwyddyn ddiwethaf a chyfnod sy’n arwain at y Nadolig wedi bod yn “eithriadol o brysur.”

Yn ôl Arwel Jones, gwirfoddolwr ym Manc Bwyd Arfon, mae “haelioni mawr dros gyfnod y Nadolig” mewn rhoddion ariannol neu fwyd.

Ond nid yw’r haelioni i’w weld mor “gyson” drwy gydol y flwyddyn, meddai.

“Dyw e ddim mor gyson, mae pobl yn amlwg yn meddwl am y Nadolig fel cyfnod sydd ag angen penodol ac mae ’na angen penodol ond yn amlwg rydyn ni’n darparu drwy gydol y flwyddyn ac mae cael cysondeb yn y rhoddion drwy gydol y flwyddyn yn bwysig i ni.

“Mewn un ystyr, byddai’n gwneud ein bywyd ni’n haws petai’r rhoi yn gyson drwy’r flwyddyn yn hytrach na’r nifer i fyny a lawr ond ’dan ni’n falch o bob dim ’dan ni’n derbyn.

“Fyddwn i’n amlwg yn croesawu cysondeb o ran rhoddion; o’r arian neu’r cynnwys penodol achos mae rhai pethau ’dan ni ddim angen bob tro. Er enghraifft mae gynnon ni fynydd o basta ar hyn o bryd.”

Dywedodd Mr Jones bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn brysurach na’r arfer oherwydd sgil effeithiau Covid-19 a thoriadau Credyd Cynhwysol.

Prysurdeb y Nadolig

Mae’r Nadolig yn gyfnod sydd hyd yn oed yn brysurach i fanciau bwyd oherwydd galw mawr a’r angen i roi trefn ar roddion a phecynnau bwyd.

 

Image
S4C
Mae Arwel jones wedi bod yn gwirfoddoli ym Manc Bwyd Arfon.

“Mae prysurdeb y Nadolig yn newyddion da a drwg i ni yn y banc bwyd. Mae’n ddrwg o ran y galw a bod gymaint o bobl angen ein gwasanaeth ond yn newyddion da oherwydd yr haelioni a bod mwy o bobl yn rhoi.

“Mae’r Nadolig wastad yn adeg prysur i ni,” meddai Mr Jones.

“Fel arfer dros weddill y flwyddyn, rydyn ni’n darparu bwydydd i ryw 60-70 o bobl yr wythnos. O gwmpas y Nadolig mae’n mynd fyny i 100 yr wythnos a hyd yn oed mwy oherwydd y gofynion sydd ar bobl; gorfod gwneud dewisiadau anodd o ran anrhegion, gwresogi, bwyd, ac yn y blaen.”

Byddai Mr Jones yn croesawu rhoddion fwy cyson drwy gydol y flwyddyn ond mae haelioni cyfnod y Nadolig yn ei “ryfeddu” yn flynyddol.

Image
S4C
Plant Ysgol Dyffryn Nantlle yn rhoi rhoddion bwyd i Fanc Bwyd Arfon

Dros gyfnod y Nadolig mae gwirfoddolwyr Banc Bwyd Arfon yn cynyddu “tua 40%” er mwyn ymateb i’r galw a’r rhoddion.

Mae Banc Bwyd Arfon yn gobeithio na fydd y galw’n parhau i gynyddu wedi’r Nadolig, ond maent yn  annog unrhyw un sydd angen help i dderbyn yr help.

Ychwanegodd Mr Jones: “Pan mae cwsmeriaid yn dod i mewn efo’u talebau ’dach chi’n gweld yr embaras, y nerfusrwydd, y cywilydd bo’ nhw’n gorfod gofyn am help. ’Dach chi’n ei weld e yn eu hwynebau nhw.

“Peidiwch bod ofn dod i chwilio, dyna pam ’dan ni yma a does yna ddim cywilydd mewn gofyn am help, y cywilydd yw bod angen gofyn am help.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.