Carcharu dyn o'r Fflint am stelcian y cyflwynydd Louise Minchin

Mae dyn o'r Fflint a oedd yn stelcian cyflwynydd y BBC Louise Minchin a'i merch wedi cael ei garcharu.
Cafodd Carl Davies, 44, sy'n gyn-filwr, ei ddedfrydu i ddwy flynedd ac wyth mis yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher.
Clywodd y llys ei fod wedi postio nifer o negeseuon "bygythiol" "gyda'r bwriad o wneud y mwyaf o ofn a gofid" i Ms Minchin a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol ei merch Mia, sydd yn ei harddegau, dros bedwar diwrnod rhwng Gorffennaf 14 a 17, 2020.
Dywedodd y cyflwynydd a'i merch fod y stelcian wedi cael "effaith erchyll, dinistriol a pharhaol" a'u bod dal i ddioddef o "ymdeimlad o drallod dwfn" fwy na blwyddyn yn ddiweddarach, meddai'r barnwr.
Mewn datganiad effaith ar ddioddefwyr, dywedodd Louise Minchin: "Mae'r ddwy ohonom yn dal i gael ein trawmateiddio gan yr hyn sydd wedi bod yn brofiad dirdynnol."
Dywedodd yr erlynydd Brian Treadwell: "Nid yw'r teulu'n teimlo'n ddiogel ac efallai na fyddant byth."
Mwy o'r stori yma.