'Dwi ddim yn edrych ymlaen at y Dolig o gwbl ar ôl colli mam'

24/12/2021
Alex a'i mam

Ar ôl i gynlluniau'r Nadolig gael eu canslo'r llynedd oherwydd cyfyngiadau Covid-19, i lawer o bobl fe fydd pwyslais ychwanegol wedi’i osod ar ddathliadau eleni.

Ond i rai teuluoedd, mae cyfnod y Nadolig yn eu hatgoffa o’r hyn y maen nhw wedi ei golli yn ystod y pandemig.

Mae dros 6,500 o bobl wedi marw yng Nghymru o Covid-19 ers dechrau'r pandemig, gan adael canoedd o deuluoedd i wynebu cyfnod y Nadolig eleni heb eu hanwyliaid am y tro cyntaf.

‘Dim yn edrych ymlaen' at y Nadolig

Un o’r teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth yw teulu Alex Price o Lynebwy ym Mlaenau Gwent.

Bu farw mam Alex yn ystod adeg y Nadolig y llynedd, wedi iddi ddal Covid-19 yn yr ysbyty ar ôl derbyn triniaeth ar gyfer hypercalciemia.

Roedd mam Alex wedi dioddef gyda chanser y fron am bedair blynedd, ac roedd y teulu yn ymwybodol y gallai'r feirws beri risg uchel iddi.

“Naethon ni popeth i geisio amddiffyn mam a neud yn siŵr roedd hi’n saff,” meddai Alex.

“Naeth pethau waethygu yn rili gyflym. Odd hi dros nos, roedd hi mor gyflym, o' ni mewn sioc.

Image
Alex a'i mam
Fe wnaeth Alex gynnal ei phriodas yn gynnar er mwyn sicrhau fod ei mam yno i'w gweld yn priodi

“Naeth mam ddim cael unrhyw symptomau. Odd hi jyst wedi mynd mor gyflym, ac o' ni mewn sioc oherwydd o ni’n disgwyl iddi fynd yn sâl yn gyntaf.”

Dywedodd Alex fod diwrnod Nadolig yn dilyn marwolaeth ei mam yn gyfnod anodd iawn iddi.

“Dwi ddim yn meddwl ges i Dolig y llynedd, o ni’n teimlo roedd rhaid i fi gamu lan ac edrych ar ôl pawb arall.

“O ni’n rhedeg o gwmpas yn neud popeth i bawb arall, a nes i ddim sylwi sut o’n’ i’n teimlo. Dwi methu hyd yn oed cofio'r Nadolig.”

Yn ôl Alex, dyma fydd ei Nadolig llawn cyntaf heb ei mam, gan hefyd nodi blwyddyn ers ei marwolaeth.

Er bod y cyfyngiadau wedi eu llacio rhywfaint, gan alluogi'r teulu i ddod at ei gilydd ar ddydd Nadolig, mae’n anodd dathlu eleni wedi iddi golli ei mam, meddai.

“Dwi’n teimlo blwyddyn yma fel mae hi wir wedi gadael ni a dyw hi ddim mynd i fod yma...roedd Dolig yn hoff adeg y flwyddyn fy mam, oedd hi’n caru Dolig cymaint.”

“Dwi wedi bod yn mess llwyr oherwydd dwi’n meddwl amdani trwy’r amser.

Image
Mam Alex

“Mae’n anodd gwneud unrhwy beth penodol oherwydd pob amser dwi’n meddwl am Dolig dwi’n dechrau crio.”

“On’ i arfer caru Dolig ‘fyd, a dwi methu credu dwi’n teimlo fel hyn nawr oherwydd odd e’n hoff adeg y flwyddyn i fi hefyd.”

‘Dim yn disgwyl hyn i ddigwydd’

Mae teulu Rachel Fields o Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin yn mynd trwy brofiad tebyg.

Aeth ei llystad, Les, i’r ysbyty am lawdriniaeth ar ei galon o gwmpas cyfnod y Nadolig yn ystod ail don y pandemig.

Bu farw ddeuddydd cyn diwrnod Nadolig ar ôl dal Covid-19 tra'n yr ysbyty.

“Mae’n trawmatig, dwyt ti ddim yn disgwyl hyn i ddigwydd,” meddai Rachel.

“Ti ddim yn disgwyl rhywun i fynd mewn am lawdriniaeth gyffredin a ddim dod adref, roedd hi’n amser anodd iawn."

Ychwanegodd Rachel y bydd dathlu’r Nadolig eleni yn anodd wrth gofio bywyd Les.

“Roedd Les pob amser yng nghanol y parti, mewn unrhyw barti neu ddathliad bydde fe yn yr un cyntaf yno.

“Ar ddiwrnod Dolig, bydde fe’n dod a hwyl a sbri, ei bersonoliaeth lawen a’i hoff siwmper Dolig, yn chwarae gyda’i wyrion.

“Bydde fe yno yn jocian gyda phawb, a bydd pawb yn chwerthin ac mewn hysterics gydag o, oedd o’n rhan enfawr o ddiwrnod Dolig i bob un o ni.”

Image
Les

Ychwanegodd Rachel y bydd yn gyfnod gwahanol iawn eleni, er y bydd y teulu'n ceisio dathlu gyda’i gilydd.

“Chi methu ffili stopio teimlo, ‘Oh mae’n Dolig ond mae rhywun ar goll',” dywedodd.

“Mae’n anodd rhoi mewn i eiriau, mae na ychydig o bryder am y diwrnod sydd i ddod. Mae’n amlwg yn mynd i fod yn golled enfawr i mam ar ddiwrnod Dolig, mae’n mynd i fod yn anodd iawn.”

Gwneud y gorau o’r amser gyda’r teulu

Er y bydd cyfnod y Nadolig yn anodd i Rachel ac Alex, mae'r ddwy'n pwysleisio'r pwysigrwydd o geisio manteisio ar yr amser sydd i ddod gyda’u teuluoedd.

Fe fydd hefyd yn gyfle i gofio a dathlu bywydau eu hanwyliaid y maent wedi eu colli.

“Mae gen i fy mhlant a dwi’n mynd i fod yn gryf iddyn nhw,” meddai Alex.

“Dwi’n gwybod bydd mam yn ddig os na fyddai’n neud rhywbeth.

“Dwi wedi plannu coeden Nadolig bach yn yr ardd er cof am mam a dwi am fynd i addurno fe pob blwyddyn ar ei chyfer.”

Mae teulu Rachel hefyd am ddefnyddio’r cyfnod i gofio am a dathlu bywyd Les:

“Ni wedi gwneud addurniadau Dolig personol i roi ar y goeden sydd gyda negeseuon am Les,” meddai.

Image
Les

“Dwi’n gwybod bydd rhai ohono ni’n mynd at y fainc sydd wedi’i gosod er cof amdano.

“A fydd e lan yn y nefoedd, mwy na thebyg yn cael diod ar gyfer pawb ac yn ein hannog ni i gael diod ar ei ran.

“Mae'n rhaid i ni wneud y gorau o’r amser gyda’n teulu oherwydd da ni ddim yn gwybod be ddaw yfory.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.