Dyn yn pledio'n ddieuog i lofruddiaeth Syr David Amess

Mae'r dyn sydd wedi'i gyhuddo o ladd y diweddar Syr David Amess wedi pledio'n ddieuog i'w lofruddiaeth.
Cafodd Ali Harbi Ali, 25, ei arestio ar ôl i Syr David, oedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Orllewin Southend, gael ei drywanu yn ei swyddfa yn Leigh-on-Sea fis Hydref.
Yn ôl Sky News, mae Mr Ali hefyd wedi pledio'n ddieuog o baratoi ymosodiad terfysgol rhwng Mai 2019 a Medi eleni yn yr Old Bailey ddydd Mawrth.
Bydd achos llys llawn yn digwydd ar 21 Mawrth, 2022.
Darllenwch mwy yma.