Cyfraddau busnes cwmnïau Cymru i gael eu haneru o fis Ebrill
Bydd cyfraddau busnes yn cael eu haneru yng Nghymru yn 2022-23, fel rhan o gynllun sydd wedi ei gyhoeddi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru am y flwyddyn ariannol i ddod.
Mae'r gyllideb yn cadarnhau'r polisi o ryddhad ardrethi i fusnesau mewn sectorau sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan bandemig Covid-19 - cymorth sydd wedi bodoli'n barod o achos y pandemig ond fydd nawr yn cael ei ymestyn.
Daw'r Gyllideb wedi i'r Llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru ddod i gytundeb i gydweithio ar gyfres o bolisïau yn ystod y tair blynedd nesaf.
Bydd busnesau sy'n talu ardrethi yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn derbyn y gostyngiad o 50% drwy gydol blwyddyn ariannol 2022-23.
Bydd cap o £110,000 ar y rhyddhad fydd busnesau unigol yn ei dderbyn.
Mae cynllun o'r un fath eisoes wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU ar gyfer busnesau yn Lloegr.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi buddsoddi £20 miliwn yn ychwanegol i'r cyllid ddaeth gan Lywodraeth y DU.
Mae'r llywodraeth yn amcangyfrif y bydd 85,000 eiddo yng Nghymru nawr yn derbyn cymorth i dalu eu biliau ardrethi yn 2022-23.
'Cyd-destun ariannol anodd'
Dywed Llywodraeth Cymru mai prif amcanion y gyllideb yw cefnogi'r rhaglen lywodraethu, ariannu gwasanaethau cyhoeddus, ymateb i'r argyfwng hinsawdd a chreu "Cymru decach".
Mae'r llywodraeth yn bwriadu neilltuo £1.3 biliwn yn uniongyrchol i'r gwasanaeth iechyd dros y tair blynedd nesaf wrth i'r GIG barhau i ymateb i'r pandemig.
Bydd £320 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i barhau â rhaglen o ddiwygio addysg, gan gynnwys £90 miliwn i ddarparu prydau ysgol am ddim, gan gynnwys ar gyfer pob plentyn yn yr ysgol gynradd.
I fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, bydd £160 miliwn o refeniw ychwanegol ar gyfer buddsoddiad gwyrdd - £18 biliwn o gyfanswm mewn buddsoddiad cyfalaf.
Mae hynny'n cynnwys ymrwymiadau sydd yn y Rhaglen Lywodraethu gan gynnwys sefydlu coedwig genedlaethol.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn neilltuo £4.5 miliwn ychwanegol i wneud tomenni glo'n ddiogel gyda chyfanswm y buddsoddiad cyfalaf yn £44.4 miliwn.
Dywedodd Rebecca Miles, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru fod y llywodraeth yn gweithredu mewn "cyd-destun ariannol anodd".
Ond, fe ychwanegodd: “Dyma gyllideb i roi hwb i gychwyn gwireddu ein Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol a dewr ac rwy’n falch o gael ei chyhoeddi a gosod y sylfeini ar gyfer ein hadferiad ac i’n symud i fod yn Gymru gryfach, decach a gwyrddach.”
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud nad yw'r Gyllideb yn darparu cynllun ar gyfer economi gref a bod sicrhau swyddi gyda chyflogau da a gwell wasanaethau cyhoeddus angen bod yn "flaenoriaeth".
Maen nhw hefyd yn dweud fod y Gyllideb yn bosib oherwydd buddsoddiad llywodraeth Geidwadol y DU.