Laura Kuenssberg i adael ei swydd wedi saith mlynedd fel golygydd gwleidyddol

Mirror 20/12/2021

Fe fydd golygydd gwleidyddol y BBC, Laura Kuenssberg, yn gadael ei swydd ym mis Ebrill ar ôl saith mlynedd o ohebu.

Fe fydd yn parhau i ddarlledu gyda'r Gorfforaeth, a hynny ar deledu, radio ac ar-lein.

Wrth gyhoeddi'r newyddion ar Twitter ddydd Llun, dywedodd y byddai'n colli drama San Steffan ond yn ei bod edrych ymlaen am her newydd.

Roedd hi'n gyfrifol am ohebu yn ystod un o gyfnodau mwyaf cythryblus yn hanes gwleidyddiaeth y DU, yn gyntaf wrth ddilyn y dadleuon am broses Brexit, ac yna wrth i bandemig coronafeirws daro'r DU.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: BBC