Cynllun arloesol yn helpu pobol ddigartref ym Mro Morgannwg

Mae cynllun arloesol yn Y Bari yn cynnig llety dros dro i roi cymorth i bobol ddigartref gael mynediad nôl mewn i gymdeithas.
Adeiladodd Cyngor Bro Morgannwg 11 o unedau ar safle hen storfa gan ddefnyddio dulliau adeiladu cyfoes er mwyn gwneud y llety yn ecogyfeillgar.
Mae naw o’r unedau ar gyfer pobol sengl gyda dau ar gyfer cyplau.
Mae gan yr unedau lolfa, cegin ac ystafell fwyta, ystafell wely ac ystafell ymolchi gyda chawod.
Y bwriad yw rhoi cyfle i bobol ddigartref gael cymorth i chwilio am lety parhaol, Gwaith ac addysg.
Darllenwch y stori yn llawn gan Golwg360.