Cymru yn wynebu Gwlad Belg eto yng Nghynghrair y Cenhedloedd 2022/23

Aaron Ramsey, Connor Roberts a Neco Williams yn dathlu ail gôl Ramsey. Llun: Asiantaeth Huw Evans
Bydd Cymru yn herio Gwlad Belg a’r Iseldiroedd yn eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd 2022/23.
Y pedwerydd tîm yng ngrŵp A4 y gystadleuaeth yw Gwlad Pwyl.
Mae’r gystadleuaeth yn dechrau ar 2 Fehefin, 2022.
Bydd pob tîm yn chwarae pedair gêm grŵp rhwng 2 a 14 Mehefin ac yna’r ddwy gêm ddiwethaf rhwng 22 a 27 Medi.
Bydd enillwyr pob grŵp o’r adran uchaf – Adran A – yn chwarae yn y rowndiau terfynol ym Mehefin 2023.
Bydd y timau sy’n ennill y tair adran is yn cael eu dyrchafu.
Darllenwch y stori yn llawn yma.