Llywodraeth y DU yn gwrthod cais am Ŵyl y Banc ar Ddydd Gŵyl Dewi

Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod galwadau am Ŵyl Banc ar Ddydd Gŵyl Dewi ar ôl honni bod gormod o bobl yn teithio dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr i wneud y syniad yn ymarferol.
Ym mis Hydref fe wnaeth Cyngor Gwynedd anfon llythyr at weinidogion yn galw am roi terfyn ar anghysondeb "annifyr" rhwng Cymru a Llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Maen nhw yn medru dynodi eu dyddiau cenedlaethol tra nad oes unrhyw bwerau o'r fath wedi'u datganoli i Fae Caerdydd ar hyn o bryd.
Yn cael ei ddathlu ar 1 Mawrth, nid yw Dydd Gŵyl Dewi yn wyliau cenedlaethol swyddogol er gwaethaf cefnogaeth hanesyddol gref yng Nghymru.
Dynodedig
Dyna sbardunodd gynnig y Cynghorydd Elwyn Edwards a gafodd gefnogaeth unfrydol gan gynghorwyr Gwynedd.
Mae Dydd Gŵyl Sant Andrew wedi bod yn wyliau cyhoeddus yn yr Alban ers pasio Deddf Gŵyl Banc Dydd Sant Andrew (Yr Alban) 2007. Er hynny, mae'n dibynnu ar ddisgresiwn cyflogwyr, gyda Dydd Sant Padrig hefyd yn wyliau cyhoeddus dynodedig ar ynys Iwerddon.
Ond mewn llythyr mae Paul Scully AS, y Gweinidog Dros Fusnesau Bach, wedi arllwys dŵr oer ar unrhyw syniad o gael Gŵyl Banc ychwanegol i Gymru.
Mwy am y stori yma.