
Cadarnhau 30 achos newydd o'r amrywiolyn Omicron yng Nghymru
Mae achosion newydd o'r amrywiolyn Omicron wedi dyblu dros gyfnod o 24 awr yng Nghymru.
Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Mercher fod 30 o achosion wedi eu cadarnhau, gan ddod â'r cyfanswm i 62.
Ddiwrnod ynghynt, ar 14 Rhagfyr, 32 o achosion positif oedd wedi eu cadarnhau.
Fel esboniad i'r cynnydd, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod achosion oedd eisoes wedi eu nodi fel rhai "tebygol" bellach yn cael eu dosbarthu fel achosion sydd wedi eu "cadarnhau" gan genoteipio.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio fod disgwyl i achosion o'r amrywiolyn gynyddu'n sylweddol dros yr wythnosau nesaf.
'Disgwyl cynnydd cyflym'
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sydd â'r nifer uchaf o achosion Omicron, gyda 23, gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ail gyda 10 achos.
Mae naw wedi eu cadarnhau ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan a Bae Abertawe, chwech ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, tri yn Hywel Dda a dau ym Mhowys.
Dywedodd Dr Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Mercher 15 Rhagfyr) yn cadarnhau 30 achos newydd o amrywiolyn Omicron yng Nghymru, gan ddod â ni i gyfanswm o 62 achos.
“Mae rhan o’r cynnydd heddiw yn gysylltiedig â newid yn y diffiniad a gytunwyd arno ledled y DU, gan fod achosion a nodwyd yn flaenorol yn debygol iawn bellach yn cael eu dosbarthu fel rhai a gadarnhawyd gan genoteipio. Fodd bynnag, fel yr ydym wedi nodi o’r blaen, mae disgwyl cynnydd cyflym dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf. ”

Daw'r cyhoeddiad wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig baratoi i gynnal cyfarfod COBRA "brys" ddydd Mercher yn sgil pryderon dros ledaeniad amrywiolyn Omicron.
Roedd y llywodraeth eisoes wedi gwrthod galwadau gan arweinwyr Cymru a'r Alban fis diwethaf i gynnal cyfarfod brys ynglŷn â sefyllfa'r amrywiolyn newydd.
Fe wnaeth y llywodraeth ildio i alwadau llywodraethau datganoledig y DU yn y pendraw, gan gadarnhau cyfarfod rhyngddynt ddydd Gwener.
Yn ôl The Mirror, daw'r cyfarfod wrth i bennaeth yr Asiantaeth Diogelwch Iechyd, Jenny Harries, rybuddio bod y DU yn wynebu nifer "syfrdanol" o achosion Omicron yn y dyddiau nesaf.
Dywedodd Ms Harries wrth Aelodau Seneddol San Steffan bod y GIG "mewn peryg difrifol" oherwydd yr amrywiolyn newydd.
Mae Gweinidog Iechyd y DU, Sajid Javid, wedi dweud bod gwyddonwyr yn amcangyfrif bod 200,000 o bobl yn cael eu heintio gydag Omicron bob dydd.
Mae 30 o achosion o'r amrywiolyn eisoes wedi'u cofnodi yng Nghymru hyd yma.
Fe fydd y Prif Weinidog, Boris Johnson, yn cynnal cynhadledd i'r wasg mewn ymateb i'r sefyllfa nos Fercher.