Elusen i wrthod rhodd gan berchennog tafarn wnaeth yrru neges ‘digroeso’ i gwsmer

Mae elusen Cymorth i Ferched Cymru wedi dweud y byddant yn gwrthod rhodd gan berchennog tafarn wnaeth yrru negeseuon i gwsmer ar ôl iddi ddarparu ei rif iddo ar gyfer pwrpasau atal Covid-19.
Ar ôl darparu ei rhif ffôn i’r dafarn yn ardal Treganna, Caerdydd, fe dderbyniodd y cwsmer negeseuon gan berchennog y dafarn yn dweud nad oedd yn rhaid iddi ddilyn rheolau coronafeirws.
Dywed y neges: “Jyst fel dy fod yn gwybod, mae gen ti wyneb hynod o ddel felly mi wyt ti’n cael peidio gwisgo mwgwd yn y bar. Mae’n rhaid i bawb arall wisgo un.”
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i’r digwyddiad.
Ers hynny, mae'r perchennog wedi cydnabod yr hyn ddigwyddodd ac wedi addo rhoi rhodd ariannol i elusen Cymorth i Ferched Cymru.
Ond mae’r elusen wedi dweud y byddant yn gwrthod unrhyw rodd gan y perchennog.
'Annymunol a siomedig'
Dywed llefarydd wrth WalesOnline: “Rydym yn ystyried y digwyddiad honedig o aflonyddu rhywiol a’r drosedd yn erbyn diogelwch data yn hynod o annymunol; y datganiad cyhoeddus a ddaeth wedyn yn siomedig – sy’n absennol o ymddiheuriad i’r dioddefwr.
“O ganlyniad, rydym yn credu y byddai derbyn rhodd o’r fath – petai yn cael ei wneud – yn annerbyniol ar y cyfnod hwn.”
Mae llefarydd ar ran Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi dweud wrth WalesOnline: “Rydym wedi cael ein hysbysu o’r digwyddiad yma ac fe fyddwn ni’n asesu’r wybodaeth sydd wedi cael ei ddarparu.”
Ychwanegodd: “Mae gan bobl yr hawl i fynd allan am bryd o fwyd neu ddiod heb orfod ofni y byddant yn derbyn galwad neu neges ddigroeso gan y staff sy’n eu gweini. Dyw hynny byth yn iawn ac fe fydd unrhyw gwynion yn cael eu cymryd o ddifrif.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.