
Dim sicrwydd y bydd mynediad am ddim i Tafwyl
Dim sicrwydd y bydd mynediad am ddim i Tafwyl
Does dim sicrwydd y bydd pobol yn cael mynd i mewn am ddim i ŵyl Tafwyl y flwyddyn nesaf yn ôl Prif Weithredwr newydd Menter Caerdydd.
Er mai dyna yw’r nôd meddai Heulyn Rees, mae cynnal yr ŵyl wedi mynd yn fwy drud wrth iddi dyfu mewn maint a niferoedd.
“Erbyn hyn mae angen arian sylweddol iawn i redeg Tafwyl fel ‘yn ni wedi dod yn gyfarwydd ag e. Ni yn ffodus iawn, o ran Menter Caerdydd, i gael cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ariannu canran o hynny.
"Ond mae lot o waith mynd ar ôl arian i wneud yn siŵr bod yr ŵyl yn gallu parhau i ddatblygu.”
Mae deunyddiau craidd i gynnal gŵyl gerddorol wedi mynd yn llawer mwy costus meddai.
“Efallai ‘dyw’r grantiau ar hyn o bryd ddim yn adlewyrchu'r gost ychwanegol sydd gyda phethau fel hynny.”
Ond er bod talu ffi ar y drws yn gorfod bod yn “opsiwn sydd ar y bwrdd” nid dyna yw dymuniad Heulyn Rees, sydd hefyd a chyfrifoldeb dros Fenter Iaith Bro Morgannwg.
Mae’n ŵyl lle mae pobl yn teithio o bell i’w gweld hi ac wedi dod yn un genedlaethol erbyn hyn meddai.
“Dydyn ni ddim eisiau, ar ddiwedd y dydd, bod pobl yn gorfod gwneud penderfyniadau ariannol, …ble mae pobl yn gorfod dewis ai mam neu dad neu pwy bynnag sydd yn dod i’r ŵyl gyda’r plentyn, achos bod nhw methu fforddio talu am deulu cyfan.”

Yn 2022 y bwriad yw cynnal Tafwyl ar dir Castell Caerdydd unwaith eto. Ond y bwriad hefyd yw ei bod yn ŵyl ddigidol yn sgîl llwyddiant y niferoedd oedd yn gwylio ar-lein y llynedd. Fe wnaeth 38 o filoedd wylio gyda nifer y tu allan i Gymru.
Ymhlith y datblygiadau eraill yn yr haf y mae disgwyl presenoldeb bandiau o’r gwledydd Celtaidd a phrosiectau i gydweithio gyda cherddorion ifanc i ffurfio bandiau Cymraeg newydd. Byddan nhw yn cael cyfleoedd ‘y tu hwnt i Tafwyl’ meddai.

Nid Tafwyl yw’r unig ŵyl sydd yn dod o dan ei gyfrifoldeb ond hefyd Gŵyl Fach y Fro. Er bod hon yn llai o ran maint ac yn fwy newydd mae hithau erbyn hyn meddai yn denu torf ar draws Cymru fel Tafwyl. Y bwriad yw symud ei lleoliad flwyddyn nesaf.
“Ni yn edrych i fynd i leoliad mwy canolog o ran y dref a ble bydd mwy a mwy o bobl yn gallu bwrw ar draws yr ŵyl, ar ddamwain bron, a bod achos ei bod hi mewn lleoliad time bach yn fwy canolog ac agosach at ganolbwynt y Barri,” meddai.
Pandemig yn cynnig cyfleoedd newydd
Ers llai na mis mae Heulyn Rees yn ei swydd ond mae ganddo weledigaeth glir sef sicrhau bod y Gymraeg yn bodoli ar draws bob rhan o’r brifddinas ac ardaloedd Bro Morgannwg.
Bydd y mentrau meddai yn canolbwyntio ar ddatblygu gwaith mewn cymunedau lle nad yw hynny wedi digwydd cymaint yn y gorffennol yn y ddwy sir.
“Mae ‘na ysgolion Cymraeg wedi dod i rannau o Fro Morgannwg ac i Gaerdydd, ysgolion cynradd, ysgol uwchradd wedi dod i ddwyrain y ddinas mewn blynyddoedd diweddar. Wy yn credu bod rhaid i weithgarwch y fenter ysgogi hynny ac adlewyrchu hynny hefyd.”
Yn ôl y prif weithredwr newydd mae’r pandemig wedi cynnig cyfleoedd newydd gyda niferoedd uchel wedi dewis cymryd rhan mewn dosbarthiadau neu sgyrsiau ar lein.
Ond mae llai o gyfleoedd wedi bod i siarad yr iaith ar draws cymunedau Cymru. Mae unioni hynny yn mynd i gymryd amser meddai.
“Mae ‘na waith gyda ni dwi’n credu i fynd yn ôl i ble o’n i yn 2019 i ddechrau cyn bod ni yn dechrau sôn am adeiladu i’r dyfodol ar ben hynny. Dyna’r her fawr i bawb sy’n gweithio yn y maes datblygu Cymraeg dwi’n credu.”