
'Pam lai?' Dafydd Iwan o blaid ymaelodi â Llafur Cymru annibynnol

'Pam lai?' Dafydd Iwan o blaid ymaelodi â Llafur Cymru annibynnol
Mae'r canwr a chyn-lywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan, wedi dweud y byddai'r blaid yn debygol o ddod i ben pe bai Llafur Cymru yn dod yn annibynnol rhag San Steffan.
Mewn cyfweliad â rhaglen Sharp End ar ITV Cymru, dywedodd fod "angen i Lafur Cymru fod o ddifrif am fod yn Llafur Cymru".
Dywedodd Mr Iwan, oedd yn Llywydd ar Blaid Cymru rhwng 2003 a 2010: "Ar y foment, maen nhw'n rhan o'r blaid Brydeinig ac yn y bôn yn dilyn cyfarwyddyd o Lundain a dilyn Keir Starmer neu bwy bynnag sy'n arwain.
"Dwi'n meddwl nawr fod ganddynt ddigon o gryfder a digon o hunangred i ddod yn blaid Lafur Cymru annibynnol."
Ond mae'n rhybuddio efallai y byddai hyn yn golygu'r diwedd i Blaid Cymru.
Ychwanegodd: "Os maen nhw'n gwneud hynny yna efallai mai dyna fyddai'r diwedd i Blaid Cymru ond o leiaf y byddem wedyn yn gallu gweld y ffordd tuag at annibyniaeth yn agor o'n blaenau."

Pan ofynnwyd iddo gan Rob Osborne a fyddai'n ymuno â Llafur Cymru annibynnol, "Pam lai?" oedd ateb Mr Iwan.
Ond, roedd yn pwysleisio nad oedd yn bwriadu gwneud hynny ar hyn o bryd.
Dywedodd hefyd y byddai "cyfuno Plaid Cymru a Llafur Cymru annibynnol yn ddiddorol a byddem yn hoff iawn o fod yn rhan o hynny".
Roedd Dafydd Iwan yn croesawu'r Cynllun Cydweithio rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru a fydd yn parhau am y tair blynedd nesaf.
"Gallai Plaid Cymru gael ei gweld fel y grym neu'r sbardun sy'n gyrru'r cart yn ei flaen. Nid oes angen i ni fod yno mewn grym drwy'r amser, nid hynny yw'r unig ganlyniad posibl.
"Os fedrwn ni yn y cyfamser sicrhau fod Llafur Cymru yn symud yn y cyfeiriad cywir, dyna ni."