Llywodraeth Cymru yn 'fodlon cyflwyno cyfyngiadau Covid cyn y Nadolig os oes rhaid'

Llywodraeth Cymru yn 'fodlon cyflwyno cyfyngiadau Covid cyn y Nadolig os oes rhaid'
Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon cyflwyno rhagor o gyfyngiadau Covid-19 cyn y Nadolig os oes rhaid.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, "dyma'r peth diwethaf" y mae'r llywodraeth eisiau ei wneud.
Ond, meddai, "mae cyfrifoldeb arnom ni fel llywodraeth i ddiogelu pobl Cymru".
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r cyfyngiadau yn wythnosol o ganlyniad i'r amrywiolyn Omicron.
Hyd yn hyn, 15 o achosion sydd wedi eu hadnabod yng Nghymru - ond mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl gweld "cynnydd aruthrol" yn y ffigwr yma dros yr wythnosau nesaf.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw arnynt i wneud cynnydd sylweddol mewn dosbarthu brechlynnau atgyfnerthu.
Diweddarwyd dangosfwrdd gwyliadwriaeth cyflym COVID-19:
— Iechyd Cyhoeddus Cymru (@IechydCyhoeddus) December 12, 2021
Cyfrifiadur - https://t.co/2muolAqkqr
Mobile - https://t.co/A65oxySxhi pic.twitter.com/v8yHl7pq63
Cafodd 2,591 o achosion o Covid-19 eu cadarnhau yng Nghymru ddydd Sul, yn ogystal â phum marwolaeth.
Mae'r gyfradd achosion dros y saith diwrnod diwethaf yn 501.9 fesul 100,000 o bobl ar gyfartaledd yng Nghymru.
Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford wrth bobl i fanteisio ar y brechlyn atgyfnerthu.
Mae dros filiwn o bobl wedi derbyn eu trydydd dos yng Nghymru hyd yma.
Wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd y Gweinidog Iechyd: "I ni nawr yn mynd i wneud penderfyniadau bob wythnos i weld os oes angen i ni roi ambell i rwystr newydd i mewn.
"Felly mae'n bwysig ein bod ni'n cadw golwg ar yr y wyddoniaeth; dim ond 15 o achosion sydd wedi eu hadnabod hyd yma ond ni'n disgwyl i hynny gynyddu yn aruthrol dros yr wythnosau nesaf 'ma."
Ychwanegodd ei bod hi'n "bosib y gwelwn ni fwy o gyfyngiadau.
"A'r peth diwethaf ni eisiau gwneud ydy gwneud hynny cyn y Nadolig, ond mae cyfrifioldeb arnom ni fel llywodraeth i ddiogelu pobl Cymru."