Newyddion S4C

Seren Hollywood yn buddsoddi mewn tafarn yng Ngheredigion

30/11/2021
Tafarn Dyffryn Aeron

Yr actor Matthew Rhys yw’r diweddaraf i gyhoeddi ei fod wedi prynu siâr mewn tafarn yng Ngheredigion.

Fe gaeodd Tafarn Dyffryn Aeron yn Ystrad Aeron ger Felinfach mis Medi ac roedd ar werth am £325,000.

Fis Awst sefydlwyd menter gydweithredol i brynu’r dafarn a’i hail-agor fel cwmni cydweithredol.

Gosodwyd nod o godi £330,000 trwy siârs, a hynny erbyn 12 Rhagfyr. Erbyn hyn mae’r ymgyrch wedi denu £100,000 mewn cyfranddaliadau.

£1 yw pris bob siâr – gyda’r disgwyl i bawb brynu isafswm o 200 siâr.

Mae’r fenter yn dilyn ôl traed Menter Ty’n Llan yn Llandwrog ger Caernarfon a gafodd gefnogaeth yr actor Rhys Ifans, yr Hudd Gwyn yn Llandudoch, Menter y Plu yn Llanystumdwy a nifer o fentrau eraill sydd wedi prynu ac ail-agor tafarnau.

Ddydd Llun cafodd y fenter hwb sylweddol pan gyhoeddodd yr actor Matthew Rhys ar Twitter ei fod newydd brynu cyfranddaliadau mewn tafarn yr oedd Dylan Thomas, neb llai, yn arfer mwynhau peint ynddi.

Yn y neges, dywedodd: “Newydd brynnu cyfranddaliadau mewn tafarn lle fu Dylan Thomas arfer ymweld . . . Os hoffech . . . @TafarnYVale."

Nos Lun cyhoeddwyd fideo ar dudalen Facebook y fenter i egluro sut y bydde'r fenter yn gweithio, a nos Fercher bydd cyfarfod yn Neuadd Felinfach i roi'r cyfle i bobl leol ddod i brynu siârs a chael diweddariad.

Dywed aelodau sychedig y fenter mai rhai o’r prif resymau dros brynu’r dafarn yw hybu cwmnïaeth drwy gael y cyfle i brynu peint a chael clonc, creu gwaith a chefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod lleol.

Maen nhw yn gobeithio ail-agor y bar a hefyd sefydlu cegin yn y dafarn a’i gwneud yn ganolfan i’r gymuned leol unwaith eto.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.