Amrywiolyn Covid newydd: Symud chwe gwlad yn Affrica i'r rhestr goch
Mae cyfyngiadau teithio o'r newydd wedi eu cyhoeddi i chwe gwlad ar gyfandir Affrica yn sgil pryderon am amrywiolyn newydd o Covid-19.
Fe fydd Botswana, De Affrica, Eswatini, Lesotho, Namibia a Zimbabwe yn cael eu hychwanegu i'r rhestr goch ar gyfer teithio rhyngwladol o 12:00 brynhawn dydd Gwener.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru fabwysiadu'r un newidiadau i'r rhestr deithio.
Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i'r amrywiolyn newydd.
Mae gwyddonwyr wedi dweud y gallai amrywiolyn B.1.1.529 a gafodd ei adnabod yn gyntaf yn Ne Affrica fod yn fwy trosglwyddadwy, yn ôl Reuters.
Nid oes unrhyw achosion o'r amrywiolyn newydd wedi eu hadnabod yn y DU hyd yma.
COVID-19 UPDATE:@UKHSA is investigating a new variant. More data is needed but we're taking precautions now.
— Sajid Javid (@sajidjavid) November 25, 2021
From noon tomorrow six African countries will be added to the red list, flights will be temporarily banned, and UK travellers must quarantine.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Lloegr Sajid Javid nos Iau fod angen "mwy o ddata" ond bod Llywodraeth y DU yn "cymryd camau gofalus nawr".
Fe fydd hediadau yn cael eu hatal dros dro o ddydd Gwener tra fod system gwarantin wedi ei sefydlu.
O 04:00 fore Sul bydd yn rhaid i deithwyr sy'n dychwelyd i'r DU dalu am le mewn gwesty cwarantin sydd wedi ei gymeradwyo gan y llywodraeth a threulio 10 diwrnod yno.
Mae'r llywodraeth hefyd yn gofyn i bobl sydd wedi dychwelyd o'r gwledydd penodol yn ystod y 10 diwrnod diwethaf i hunan-ynysu adref a chymryd prawf PCR ar yr ail a'r wythfed diwrnod ar ôl dychwelyd.