Adolygiad trafnidiaeth yn galw am 'gynyddu cysylltiad' rhwng y gogledd a Lloegr
Mae adolygiad o drafnidiaeth ar draws y Deyrnas Unedig wedi galw am "gynyddu cysylltiadau" ar draws y wlad, gan gynnwys rhwng gogledd Cymru a gogledd Lloegr.
Mae Adolygiad Cysylltedd yr Undeb yn awgrymu y dylai Llywodraeth y DU weithio gyda Llywodraeth Cymru i adolygu'r llwybr rhwng y gogledd a gogledd orllewin Lloegr.
Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi gwahodd Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU ar brosiectau a fyddai'n arwain at "welliannau hanfodol" i gysylltiadau lleol a chenedlaethol.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd modd iddyn nhw wneud sylw gan nad oedd Llywodraeth y DU wedi rhannu'r adroddiad gyda nhw.
Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu ym mis Hydref 2020 gyda'r bwriad o ystyried sut y gallai ansawdd ac argaeledd isadeiledd trafnidiaeth ar draws y DU gefnogi ffyniant economaidd ac ansawdd byw.
'Hybu cysylltiadau trafnidiaeth'
Mae Syr Peter Hendy sydd wedi llunio'r adroddiad yn awgrymu y dylai'r llywodraeth ganolbwyntio ar wella cysylltedd gyda rheilffordd gyflym HS2 a chynlluniau gwifro sylweddol.
Mae'n awgrymu hefyd y dylid uwchraddio ffyrdd yr A55 a gwella teithiau i ac o ynys Iwerddon.
Mae Syr Peter yn cynghori Llywodraeth y DU i gefnogi mesurau i leihau tagfeydd ar yr M4 a darparu gwelliannau penodol wrth gyffordd yr M4/M5.
Mae Syr Peter, sy'n gadeirydd ar Network Rail, hefyd yn awgrymu uwchraddio ac adeiladu gorsafoedd newydd ar Brif Linell De Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog, Boris Johnson: "Mae'n rhaid i ni gryfhau'r cysylltiadau rheilffordd a ffyrdd ar draws Cymru os ydym am wirioneddol uwchraddio'r DU - gwella'r cysylltedd rhwng trefi a dinasoedd Cymreig a dod â chymunedau'n agosach at ei gilydd.
"Byddwn nawr yn adlewyrchu ar adolygiad Syr Peter Hendy, a thrwy weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, hybu cysylltiadau trafnidiaeth allweddol a fydd yn cyflawni ar gyfer pobl a busnesau Cymru a lledaenu cyfleoedd a ffyniant yn fwy cyfartal".
Llun: Trafnidiaeth Cymru