Richard Madeley yn gadael 'I'm a Celebrity' ar ôl cael ei daro'n wael

Mae'r cyflwynydd teledu Richard Madeley wedi gadael 'I'm a Celebrity Get Me Out of Here' ar ôl cael ei daro'n wael ar set y gyfres realaidd boblogaidd fore Iau.
Yn ôl The Evening Standard, fe aeth y cyflwynydd 'Good Morning Britain' yn sâl yn sydyn yn oriau man y bore.
Cafodd Mr Madeley ei gludo i ysbyty yn agos i Gastell Gwrych rhag ofn i'w gyflwr waethygu.
Mae'r cyflwynydd sy'n adnabyddus am gyflwyno cyfresi wrth ochr ei wraig Judy wedi cadarnhau ei fod yn "iawn" ond ei fod yn gorfod gadael y gyfres ar ôl "torri'r swigen Covid".
Mae'r gyfres yn cael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych, Abergele, unwaith eto eleni wedi i gyfyngiadau teithio olygu nad oedd modd dychwelyd i Awstralia am yr ail flwyddyn yn olynol.
Darllenwch fwy yma.
Llun: ITV