Newyddion S4C

Teyrnged i ddyn gafodd ei drywanu i farwolaeth yng Nghaerdydd

25/11/2021
S4C

Mae teulu dyn fu farw ar ôl cael ei drywanu i farwolaeth yng Nghaerdydd wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd Jordan Cody-Foster ei ddarganfod wedi ei drywanu ar Stryd Hansen, Tre-biwt ychydig wedi 00:09 dydd Mawrth, 23 Tachwedd.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys a staff Canolfan digartref Huggard gerllaw, bu farw Jordan Cody-Foster o'i anafiadau.

Mae teulu Mr Cody-Foster wedi ei ddisgrifio fel dyn “Roedd pawb yn ei garu'n fawr.”

“Rydyn ni mewn galar a thristwch yn dilyn llofruddiaeth sydyn, creulon ein mab, nai, cefnder, brawd a thad. Roedd pawb yn ei garu'n fawr.

“Roedd blynyddoedd cynnar Jordan llawn chariad a gobaith, a mwynhaodd lawer o weithgareddau chwaraeon.

“Gweddïwn hefyd am heddwch Duw i’n cadw a’n cysuro ni a ffrindiau Jordan yn ystod y cyfnod anodd iawn yma.

“Gofynnwn hefyd am dawelwch gan y rhai a oedd yn ei adnabod.”

Cyhuddo dyn 

Mae Steven White, 44 oed, a gafodd ei arestio yn ardal Y Sblot, wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau.

Nid yw swyddogion Heddlu'r De yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â marwolaeth Mr Cody-Foster.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies o Heddlu De Cymru: “Mae ein meddyliau gyda ffrindiau a theulu Jordan.

“Yn ddealladwy mae ei farwolaeth hefyd wedi syfrdanu’r gymuned, yn enwedig y rhai sy’n gweithio ac yn byw yng Nghanolfan Huggard gerllaw, a hoffwn ddiolch iddynt am y gefnogaeth y maent wedi’i rhoi i ymchwiliad yr heddlu.

“Rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl wybodaeth a dderbyniwyd a byddem yn annog unrhyw un arall sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni."

Mae'r heddlu nawr yn apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 410667.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.