
Cynllun tai yn cythruddo pobl pentref Llandudoch yn Sir Benfro
Cynllun tai yn cythruddo pobl pentref Llandudoch yn Sir Benfro
Mae cynlluniau posib i godi o leiaf 15 o dai newydd yn Llandudoch wedi cythruddo rhai pobl leol, ar adeg pan mae'r ddadl am effaith ail gartrefi ar y pentref ar ei hanterth.
Yn 2012, fe roddwyd caniatâd amodol i godi 16 o dai ar lain o dir ger Stryd y Peilot sydd yn ffinio gyda llwybr yr arfordir ac Afon Teifi.
Nawr, mae cwmni Enzo's Estates o Cross Hands wedi llunio cais newydd ar gyfer 15 o dai ar yr un safle.
Mae mudiad Llandudoch Yfory wedi llunio deiseb yn erbyn y cynlluniau, ac mae mwy na 450 o bobl wedi ei harwyddo hyd yn hyn.
Ddydd Mawrth, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun newydd i geisio lleddfu effeithiau ail gartrefi ar gymunedau lleol.
Fel rhan o'r cynllun fe fydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar newid y system gynllunio i'r dyfodol.
'Dim ar gael i bobl cyffredin'
Mae'r Parchedig Rhosier Morgan yn byw gyferbyn â'r safle gyda'i wraig Jane. Mae'n dweud fod natur y gymuned leol wedi newid ers iddo symud i Landudoch yn 2013.
"Pan ddes i yma yn gyntaf nôl yn 2013, roedd cymdogion gen i, naill ochr, ond erbyn hyn mae'r tŷ drws yn wag, rhan fwyaf o'r amser, mae'n ail dy," meddai.

"A fan hyn wrth gwrs, roedd yna deulu bach yn byw yma, ond maen nhw wedi symud bant a nawr mae'n cael ei rentu allan dros yr haf. "
Ma'r Parchedig Morgan yn gwrthwynebu'r cynlluniau tai yn gryf.
"Prin yw'r Gymraeg yn y pentref fel mae hi. Mae hi wedi mynd yn llai dros y blynyddoedd, a nawr ni'n gweld y tai yma yn mynd i gael eu codi," dywedodd.
"Byddan nhw ddim ar gael i bobl gyffredin. Byddan nhw ddim ar gael ar gyfer y person post, athrawon cynorthwyol neu'r cigydd."
"Nid pobl leol fydd yn gallu fforddio rhain. Byddwn ni yn gweld mewnfudwyr breintiedig, cyfoethog. Iddyn nhw bydd y rhain. Bydd e'n faes chwarae ar gyfer y cyfoethog.

"Bydd e ddim yn fan i deuluoedd ac yn enwedig Cymry Cymraeg i fagu plant a mynychu'r ysgol leol ac adio at y gymuned. Bydd e'n tynnu i ffwrdd."
Mae yna hefyd bryder ymysg pobl leol nad yw'r safle yn addas ar gyfer adeiladu gan fod yn ffinio gyda Afon Teifi.
Mae June Smart wedi ei geni a'i magu yn y pentref.
"Os bydd 15 o dai yn cael eu hadeiladu ar y safle 'ma, mae rhyw deimlad da fi bydd y cwbl yn sinco a syrthio," meddai.
"Dw’i ddim yn gweld bod nhw yn gallu adeiladu 15 o dai a'r rheiny yn Executive Housing. Mae'r lleoliad yn hollol anaddas."

Mae June yn bryderus na fydd pobl ifanc yn medru fforddio'r tai newydd.
"Dyw nhw ddim wedi meddwl am y bobl leol sydd yn y pentref."
"D'wi'n gwybod am sawl person sydd yn byw yn cartrefi eu Mamau neu eu Tadau oherwydd dyw nhw ddim yn gallu fforddio prynu tŷ yn Llandudoch ar hyn o bryd."
Mae'r Parchedig Liz Rowe, sydd yn offeiriad yn Llandudoch, yn pryderu y bydd mwy o bobl yn gorfod osgoi'r gwaith adeiladu a cherdded ar Stryd y Peilot.
"Mae miloedd o bobl yn cerdded ar y llwybr yma dros yr haf. D'wi'n bryderus am beth sydd yn mynd i ddigwydd unwaith bydd y pethau yn mynd ymlaen ar y site yma."
"Dyw'r tir ddim yn rhy sefydlog ac efallai wedyn byddan nhw'n gallu newid ble mae pobl yn gorfod symud a cherdded ar Stryd y Peilot.
"Mae hynny yn bryderus iawn. Mae gymaint o ddamweiniau. D'wi'n bryderus iawn am hynny."

Mae'r Parchedig Rowe hefyd yn rhannu'r ofnau am ddyfodol y gymuned leol.
"Mae'n anodd iawn i brynu rhywle nawr yn arbennig ar yr arfordir. Dyna ble mae pob un eisiau dod. Mae pobl yn dod o bob man. Ac mae'r pobl leol yn methu fforddio oherwydd hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran asiant y datblygwr, Cwmni Cynllunio Geraint John, bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle wedi ei dderbyn yn sgil y caniatâd blaenorol a roddwyd yn 2012, ac y bydd un tŷ yn llai yn cael ei godi na’r un ar bymtheg a ganiatawyd bryd hynny.
Mae'r safle o fewn ffin anheddiad Llandudoch. Fe fydd asesiad dichonoldeb yn cael ei gynnal fel rhan o’r broses gynllunio i weld a ydy hi’n bosib darparu tai fforddiadwy ar y safle neu beidio.
Prif Llun: Mat Fascione