Yr RSPCA yn beirniadu Cyngor Caerffili am wahardd cŵn o gaeau chwarae

Newyddion S4C 22/11/2021

Yr RSPCA yn beirniadu Cyngor Caerffili am wahardd cŵn o gaeau chwarae

Mae elusen lles anifeiliaid wedi beirniadu penderfyniad un o gynghorau'r de i wahardd cŵn o gaeau chwarae cyhoeddus.

Yn ôl RSPCA Cymru mae penderfyniad Cyngor Caerffili yn cosbi perchnogion cŵn cyfrifol. 

Mae gwneud y siŵr bod dim baw cŵn ar gaeau yn rhan o batrwm wythnosol timau pêl-droed Sir Caerffili, fel sawl sir arall.

Yn ôl Harrison sy’n chwarae i dîm ieuenctid Llanbradach dyw baw ci ddim yn broblem newydd.

“Mae rhaid i ni edrych dros y cae rhag ofn bod ein chwaraewyr ni yn cwympo ynddo fe. Mae’n anffodus fod pobl ddim yn clirio lan ar ôl eu cŵn”

'Positif i'r clybiau' 

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus fe fydd y cyngor lleol nawr yn gwahardd pobl rhag mynd a’u cŵn ar gaeau chwarae cyhoeddus.

Mae Tony Wilding, un o hyfforddwyr Llanbradach, yn croesawu’r penderfyniad.

“Dwi’n credu fod e’n beth positif i’r clybiau a’r hyfforddwyr.

"Mae rhai achosion yn ddiweddar mae bois wedi cwmpo a chael baw arnyn nhw sy’n amlwg yn beryglus.

“Un o’r pethe mwyaf anodd i ‘neud yw dal pobl tra eu bod nhw’n cerdded ar y caeau, chi jyst yn dibynnu ar bobl i ymddwyn yn gall a dilyn y rheolau”

Erbyn hyn, mae dros ddwy ran o dair o gynghorau Cymru’n defnyddio Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus i geisio rheoli baw cŵn.

Caerffili yw’r nawfed sir i gyflwyno gwaharddiad sy’n gwahardd cŵn o gaeau chwarae yn benodol.

Gall berson gael dirwy o hyd at £100 os yn torri'r rheolau.

'Cosbi pobl gyfrifol'

Mae elusen RSPCA Cymru yn poeni fod hyn yn llawdrwm.  

Yn ôl Billie-Jade Thomas o’r elusen mae'r rheol newydd yn cosbi pobl gyfrifol llawn gymaint â phobl anghyfrifol.

“Mae e yn rhoi cyfyngiadau ar bobl sydd â chŵn ac mae’n meddwl bod llai o lefydd gyda nhw i fynd i gael ymarfer corff.

“I rai pobl y cae rygbi neu’r cae pêl-droed yw’r unig gae sydd gyda nhw yn agos iddyn nhw. Mae hyn yn cosbi pobl gyfrifol oherwydd ymddygiad pobl anghyfrifol felly mae’n siomedig.”

Mae’r RSPCA hefyd wedi cwestiynu pa mor ymarferol fydd gweithredu’r rheolau newydd.

“Mae e’n mynd i gostio arian ar gyfer y cyngor hefyd. Mae cynghorau dan bwysau ariannol enfawr felly sut maen nhw’n mynd i orfodi rhywbeth fel hyn? Bydd rhaid i chi gael rhywun yn gwylio dros gaeau’r sir drwy’r amser.”

Er yn cydnabod nad yw’r drefn yn berffaith mae’r Cynghorydd James Fussell o'r cyngor yn gobeithio y bydd yn help i ddatrys y broblem.

“Mae rhaid i ni gael y neges mas yna i bobl sy’n berchen ar gŵn. Mae’r drefn newydd yn sicrhau bod mwy o swyddogion ar gael i weithredu. Yr heddlu, heddlu cynorthwyol a swyddogion y cyngor.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.