
Rhybudd y gallai disgyblion gael eu harestio am sarhau athrawon ar TikTok

Rhybudd y gallai disgyblion gael eu harestio am sarhau athrawon ar TikTok
Mae undeb addysg wedi rhybuddio y gallai disgyblion gael eu harestio am sarhau athrawon ar ap cyfryngau cymdeithasol TikTok.
Daw hyn ar ôl cynnydd mewn adroddiadau am blant a phobl ifanc yn rhannu fideos o staff ysgol gyda disgrifiadau anweddus ar yr ap.
Dywedodd athrawes o ysgol ym Mhontardawe ei bod wedi gorfod ffonio'r heddlu ar ôl i staff gael eu ffilmio heb yn wybod iddynt a chael eu galw'n bedoffeil mewn fideo.
Dywedodd cwmni TikTok nad oedd yn goddef "casineb, bwlio na cham-drin".
‘Effaith negyddol enfawr’
Dywedodd Swyddog Cenedlaethol Cymru undeb athrawon NASUWT, Neil Butler, bod angen i rieni ddeall y gallai ymddygiad eu plant arwain at gael eu harestio.
"Mae’n cael effaith negyddol enfawr ar les athrawon mewn ysgolion ar draws y DU,” meddai.
Mae’r Undeb hefyd yn ymwybodol o athrawon sydd wedi gadael y proffesiwn ar ôl cael eu sarhau ar yr ap.
"Mae gennym ni esiamplau o athrawon yn aros adre'n sâl, dan straen. Mae gennyn ni esiamplau o athrawon yn gadael y proffesiwn, sef wrth gwrs y pryder mwyaf - allwn ni ddim fforddio colli athrawon profiadol o'r ystafell dosbarth," meddai.
"Dyma'r ergyd farwol mewn gwirionedd - roedd yn ddigon gwael beth oedd yn rhaid iddyn nhw fynd trwyddo yn ystod y pandemig, a nawr mae'n rhaid iddyn nhw wynebu hyn."
Dywedodd ei fod wedi gweld un fideo yn annog plant i daro athro.
"Fe fyddwn ni'n sicrhau fod holl rym y gyfraith - os yw'r gyfraith yn cael ei dorri - yn cael ei ddefnyddio, oherwydd mae'n rhaid i ni ddiogelu'n haelodau," meddai.

Mae Dewi Bowen, Pennaeth Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog yn teimlo bod y bai ar y cwmnïau ac nid y plant.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C: "Dwi 'di cysylltu â Facebook, dwi 'di cysylltu gyda TikTok, ychydig iawn o sylw mae'r mater yn cael gynno nhw.
"A hyd yn oed os oedd e, mae nifer o'r cyfrifon yma yn rhai ffals, maen nhw'n gallu newid nhw'n gyflym iawn," ychwanegodd.
"Plant ydy plant i ddeud y gwir, mae'n anodd i rieni monitro nhw.
"Dwi'n rhoi y bai ar y bosys social media yma. Mae angen iddyn nhw roi pobl rili cyn pres."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran cwmni TikTok: "Rydyn ni'n gwbl glir nad oes unrhyw le ar gyfer casineb, bwlio, a cham-drin ar TikTok.
"Rydyn ni'n difaru'r gofid gafodd ei achosi i rai athrawon o ganlyniad i fideos creulon gafodd eu rhannu ar ein platfform."

Yn ôl Gemma Morgan, pennaeth cynorthwyol Ysgol Gymunedol Cwmtawe ym Mhontardawe, mae cyfrif ysgol ffug wedi cael ei greu ar yr ap.
Mae'r cyfrif wedi rhannu fideos o nosweithiau rhieni a gwersi rhithiol, yn ogystal â ffilmio cudd o staff, sydd wedi cael ei olygu.
"Roedden nhw wedi golygu'r fideos a rhoi hashnodau arnyn nhw - roedd sawl hashnod yn cynnwys y gair paedo," meddai.
"Roedd rhai athrawon wedi cael eu ffilmio heb yn wybod mewn ystafelloedd ddosbarth."
'Sylwadau difrifol, dirmygus'
Ond, gyda dros biliwn o bobl ar draws y byd yn defnyddio’r ap erbyn hyn, mae’n debyg fod plismona popeth sy’n cael ei uwchlwytho yn dasg anodd.
Dywedodd Gemma Morgan bod TikTok wedi cymryd "amser hir iawn" i gymryd y fideos i lawr.
Dywedodd hi fod yna "sylwadau difrifol, dirmygus" ac "iaith andros o wael".
"I ddweud y gwir, pethau oedd yn peri pryder mawr, ac fe wnaethon ni gysylltu â'r heddlu lleol."
Roedd y sefyllfa'n "andros o ofidus" i staff, meddai hi.
"Yn enwedig i deuluoedd y staff... mae'n bryder enfawr."