Newyddion S4C

Mesurau diogelwch ychwanegol yn Abergele wrth i I'm a Celebrity ddychwelyd

21/11/2021
Castell gwrych

Mae mesurau diogelwch ychwanegol wedi eu cyflwyno ger Castell Gwrych yn Abergele wrth i I'm a Celebrity ddychwelyd nos Sul.

Mae cyfyngiadau cyflymder yn eu lle a phatrolau heddlu yn cynyddu er mwyn "sicrhau diogelwch y cyhoedd" yn yr ardal.

Daw'r mesurau ychwanegol wedi i ddynes farw ger y castell y llynedd.

Bu farw Sharn Iona Hughes, 58, wrth geisio tynnu llun o leoliad y gyfres deledu boblogaidd.

Mae Heddlu'r Gogledd yn galw ar bobl i gymryd gofal ychwanegol os ydynt yn teithio ar hyd ffordd yr A547 y tu allan i'r lleoliad.

Dywed swyddogion y bydd unrhyw gerbyd sydd wedi eu parcio ar hyd y ffordd gerllaw yn cael eu symud.

Dyma'r ail flwyddyn i'r gyfres gael ei darlledu o Abergele gyda chyfyngiadau teithio'n golygu nad oedd modd i'r gyfres ddychwelyd i'w lleoliad arferol yn Awstralia.

Mae rhai o'r enwogion a fydd yn ymddangos yn y gyfres eleni yn cynnwys y cyflwynydd teledu Richard Madeley, y newyddiadurwraig Louise Minchin a'r cyn bêl-droediwr David Ginola.

Mae'r castell wedi ei drawsnewid unwaith eto i groesawu'r gyfres - sydd wedi ei chyflwyno gan Ant McPartlin a Declan Donnelly - yn ôl.

Dywedodd y Prif Arolygydd Jon Aspinall: "Diogelwch defnyddwyr y ffordd, cerddwyr a'r cyhoedd yn ehangach yw ein prif flaenoriaeth, byddwch yn ymwybodol os gwelwch yn dda a chadwch yn ddiogel."

Ychwanegodd bod y llu yn "gweithio'n agos" gyda phartneriaid gan gynnwys cynhyrchwyr y rhaglen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.