Newyddion S4C

Cymdeithas Bêl-droed yn ‘gwireddu breuddwyd’ merch ifanc

21/11/2021

Cymdeithas Bêl-droed yn ‘gwireddu breuddwyd’ merch ifanc

Mae merch ifanc wedi gwireddu ei breuddwyd ar ôl cael cyfle i fod yn rhan o dîm cyfryngau cymdeithasol Cymdeithas Bêl-droed Cymru am y diwrnod.

Trafaeliodd Begw Roberts, 16 oed o Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd i Gaerdydd ar ddydd Mawrth er mwyn gwneud ei swydd ddelfrydol.

Cafodd Begw y cyfle i wneud gwaith ffilmio a helpu postio ar gyfer gyfryngau cymdeithasol Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ystod y gêm yn erbyn Gwlad Belg a gêm y garfan dan 21 yn erbyn Y Swistir.

‘Cyfleodd fel hyn ddim yn dod bob dydd’

Ers blynyddoedd mae Begw wedi bod yn creu fideos cymdeithasol ar gyfer ei thîm pêl-droed lleol, Dyffryn Nantlle.

Image
S4C
Begw wrth ei gwaith i dîm Dyffryn Nantlle. Llun: Dronau Foulkes.

Yn dilyn llwyddiant ei gwaith i’r clwb yn Nyffryn Nantlle, mae Begw wedi bod mewn cysylltiad cyson gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Drwy e-bostio yn cynnig helpu cafodd Begw y cyfle arbennig yma.

“Neshi ddechrau neud takeover Instagram be Cymru sydd ar gyfer pêl-droed merched, o fanna neshi yrru email jysd yn gofyn ‘dachi isho help efo unrhyw beth?’ Neshi jysd cynnig.

“Natho nhw ddod nôl ata fi’n deud ga'i brofiad gwaith efo gêm Cymru dan 21 a hefyd Cymru yn erbyn Gwlad Belg nos Fawrth.

“Oni mor shocked pam geshi’r email yn nôl. Oni methu cysgu noson gynt, oni jysd mor excited.”

 O gae Fêl i Stadiwm Gaerdydd

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Begw bod y profiad yn un bythgofiadwy. 

Mae Begw yn ddiolchgar iawn o’r profiad mae hi wedi cael yn Nyffryn Nantlle.

Ond roedd hi ychydig yn fwy ‘starstruck’ yn ffilmio tîm Cymru.

“Ar gyfer y gêm dan 21 neshi ffilmio rhai clipiau ar gyfer Instagram a Twitter ag oni ar y cae efo nhw.

“Oni’n pasio chwaraewyr Swistir yn gwneud ymarferion ar y coridor, ma' hwnna jysd am sticio yn fy mhen am byth."

Mae Begw am barhau i hyrwyddo ei chlwb lleol a thîm Cymru pam ddaw'r cyflau eto.

“Ma' o mor bwysig i fi hyrwyddo fy nghlwb lleol. 

“Os fyswch chi wedi deud blwyddyn yn nôl bo’ fi wedi cael y cyflau yma swni no we yn coelio chi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.