Pennaeth ysgol yn 'derbyn bygythiadau' wedi ffrae am ddyledion cinio
Mae prifathro ysgol yng Ngwynedd wedi dweud ei fod wedi gorfod mynd at yr heddlu ar ôl derbyn bygythiadau yn dilyn ffrae ddiweddar am ddyledion cinio ysgol disgyblion.
Fe dderbyniodd Neil Foden feirniadaeth chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg am rybuddio rhieni na fyddai modd i blant Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes dderbyn cinio ysgol os oedd eu cyfrifon cinio dros geiniog mewn dyled.
Dywedodd y llythyr wythnos diwethaf fod angen cymryd y fath gam gan fod llond dwrn o ddisgyblion wedi creu dyled o dros £1800 ac roedd yr ysgol wedi cael ei gorfodi i weithredu polisi llym ar y mater.
Mewn llythyr newydd at rieni dywedodd Mr Foden ei fod yn dechrau teimlo fel ei fod "wedi cael ei daflu o dan y bws", er bod ganddo "flynyddoedd o brofiad ac ysgwyddau eang iawn".
'Dangos ebyst i'r heddlu'
Wrth drafod y bygythiadau yn ei erbyn mewn cyfweliad gyda rhaglen y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru ddydd Iau, dywedodd ei fod wedi anfon dros 20 o e-byst at yr heddlu.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi cyfrannu at yr e-byst gwarthus dwi wedi eu derbyn - dwi'n credu bod dim un ohonyn nhw hefo cysylltiad gyda'r ysgol - maen nhw'n bobl o Loegr dwi'n meddwl sydd yn eistedd tu ôl i allwedd ac yn meddwl bod hynny'n rhoi hawl iddyn nhw ddweud be licien nhw.
"Dwi wedi cael bygythiadau megis 'Karma knows your address and is coming round for you soon', dwi wedi cael pobl yn fy nisgrifio fi yn y termau gwaethaf posib fedrai ddim ail-adrodd...ac mae pobl wedi bod yn ffonio'r ysgol ac yn dweud yr un peth i staff y swyddfa sydd wedi cael amser bron mor caled ag ydw i wedi ei gael.
"Mae rhai o'r pethau mae pobl wedi ei ddweud amdana i yn cynnwys y rhegi at bobl y swyddfa - mae'n hollol annerbyniol."
'Beth nesaf?'
Ychwanegodd fod y sefyllfa wedi cyrraedd y pwynt pan fod ei ffôn neu ei gyfrifiadur yn gwneud sŵn i ddweud fod e-bost arall wedi cyrraedd, y peth cyntaf i fynd drwy ei feddwl oedd "beth nesaf?".
"Nes i dreulio bron rhan fwyaf o ddydd Gwener a bron drwy dydd Llun yn mynd drwy e-bost ar ôl e-bost ar ôl e-bost yn dweud 'You're a disgrace', 'You're a disgrace to humanity', 'You should be sacked', 'You're obviously older, you're getting senile', a pethau lot gwaeth na hynny - e-bost ar ôl e-bost ar ôl e-bost.
"Y peth cyntaf mae'n wastraff amser ac ar ôl ychydig mae'n tynnu chi lawr."
Dywedodd ei fod yn difaru os oedd rhieni wedi cael eu pryderu am gynnwys y llythyr gwreiddiol, ond roedd "rhaid gwneud rhywbeth am faint y dyledion" cinio ysgol.
Ychwanegodd fod llawer o ysgolion eraill yn yr ardal yn dilyn yr un polisi.
Yn dilyn beirniadaeth chwyrn am y llythyr gwreiddiol fe wnaeth Cyngor Gwynedd ymddiheuro'n ddiffuant am achosi pryder a phoen meddwl o ganlyniad i eiriad y llythyr.
“Wedi ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd yn achos y llythyr diweddar, mae’n ymddangos fod cyngor technegol a roddwyd gan yr Adran Addysg ar sut i ymdrin â dyledion taliadau cinio ysgol wedi creu aneglurder, ac rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant am effaith hyn. Yn sgil hyn, byddwn yn adolygu ein harweiniad i ysgolion."