Newyddion S4C

Cyhoeddi tîm merched Cymru fydd yn herio Groeg a Ffrainc

18/11/2021
x

Mae rheolwr tîm merched Cymru, Gemma Grainger wedi dewis carfan o 26 chwaraewr ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA Merched 2023.

Bydd Cymru'n herio Groeg ym Mharc y Scarlets ar 26 Tachwedd a Ffrainc yn Guingamp, Llydaw ar 30 Tachwedd.

Mae Grainger yn croesawu Maria Francis-Jones nôl i’r garfan ar ôl iddi fod yn gapten i’r tîm dan 19 fis Hydref.  

Ni fydd Rachel Rowe ar gael oherwydd anaf ac mae Hannah Cain allan yn hir dymor ar ôl dioddef o anaf i'w phen-glin wythnos ar ôl iddi hi ennill ei chap gyntaf dros Gymru mis diwethaf.

Mae carfan Grainger yn mynd mewn i’r gemau yn ail yn y grŵp ar ôl tair buddugoliaeth ac un gêm gyfartal.

Y garfan : Laura O’Sullivan, Olivia Clark, Poppy Soper, Hayley Ladd, Gemma Evans, Rhiannon Roberts,  Esther Morgan, Maria Francis-Jones, Lily Woodham, Morgan Rogers, Sophie Ingle, Anna Filbey, Angharad James, Josie Green, Charlie Estcourt, Jess Fishlock, Carrie Jones, Chloe Williams, Ffion Morgan, Megan Wynne, Natasha Harding, Ceri Holland, Kayleigh Green, Helen Ward, Elise Hughes, Georgia Walters.

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.