Newyddion S4C

Dim newid i reolau coronafeirws am y tair wythnos nesaf

17/11/2021

Dim newid i reolau coronafeirws am y tair wythnos nesaf

Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi na fydd unrhyw newidiadau i gyfyngiadau coronafeirws Cymru am y tair wythnos nesaf.

Yn dilyn yr adolygiad 21 diwrnod diwethaf, dywedodd Mark Drakeford y bydd y wlad yn aros ar lefel rhybudd sero am y tro.

Ychwanegodd fod cyfraddau'r haint wedi cyrraedd lefelau na'u gwelwyd o'r blaen yn ystod y pandemig dros y tair wythnos diwethaf ac fe fyddai'n parhau i gadw'r opsiwn o ymestyn y defnydd o'r pàs Covid os oedd angen.

Cyn y cyhoeddiad roedd cryn ddyfalu a fyddai'r llywodraeth yn ymestyn y defnydd o basys Covid i dafarndai a bwytai.

Cafodd pasys Covid eu cyflwyno ar gyfer mynediad i theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd ddydd Llun.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthwynebu unrhyw gynlluniau i ymestyn ar y defnydd o basys Covid-19. 

'Sefyllfa ddifrifol'

Wrth gyhoeddi'r newyddion na fyddai'r cyfyngiadau'n newid nos Fercher, dywedodd Mr Drakeford fod Cymru'n wynebu "sefyllfa ddifrifol iawn" dair wythnos yn ôl.

"Ond mae pawb wedi tynnu ynghyd ac mae achosion wedi syrthio i lawr o'r lefelau uchel na welwyd mo’u tebyg o’r blaen," meddai.

"Wrth inni ddechrau cynllunio ar gyfer y Nadolig, mae angen inni barhau i gydweithio i ddod â’r coronafeirws o dan reolaeth. ‘Dyw'r pandemig ddim wedi diflannu – mae pedwaredd don yn llifo ar draws Ewrop, ac mae llawer o wledydd yn cyflwyno cyfyngiadau llymach unwaith eto.

"Byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i gadw Cymru ar agor ac i ddiogelu Cymru. Mae hyn yn golygu cadw'r opsiwn o ymestyn y defnydd o'r pàs Covid os bydd nifer yr achosion yn codi eto a’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd o ganlyniad i’r pandemig yn cynyddu.

"Bydd gwneud hyn yn helpu i gadw'r sector lletygarwch ar agor a sicrhau bod busnesau yn gallu masnachu yn ystod cyfnod prysur yr ŵyl.

"Byddwn ni’n parhau i fonitro’r sefyllfa o safbwynt iechyd y cyhoedd a byddwn ni’n gweithio gyda'r sector lletygarwch wrth inni baratoi ar gyfer y Nadolig. Gadewch inni barhau i gadw ein gilydd yn ddiogel – er mwyn i ni i gyd allu mwynhau Nadolig gyda’n gilydd."

'Creu darlun lle does dim cyfyngiadau'

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r llywodraeth am geisio “creu darlun lle nad oes dim cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno”

“Ond dyma’r wythnos ym mae pasbortau brechu gorfodol, aneffeithiol a gwrth-fusnes wedi eu cyflwyno,” meddai’r Gweinidog Iechyd cysgodol Russell George. 

Ychwanegodd y dylai’r llywodraeth ganolbwyntio ar gyflwyno canolfannau brechu cerdded-i-mewn yn hytrach na phasbortau Covid. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.