Newyddion S4C

Penodi Siân Doyle yn Brif Weithredwr newydd S4C

17/11/2021
Siân Doyle.jpeg

Mae S4C wedi cyhoeddi mai Siân Doyle fydd Prif Weithredwr newydd y sianel.

Bydd Ms Doyle yn olynu Owen Evans, sydd wedi bod yn y rôl ers 2017.

Fe gyhoeddodd Mr Evans ym mis Gorffennaf y byddai yn gadael y sianel i ddechrau ar rôl Prif Weithredwr Estyn yn y flwyddyn newydd.

Mae Siân Doyle yn gyn-Reolwr Gyfarwyddwr cwmni telegyfathrebu TalkTalk.

Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Manwerthu i gwmni EE, lle’r oedd yn gyfrifol am arwain tîm o dros 3,500 o weithwyr ar draws y Deyrnas Unedig.

Bu hefyd yn Uwch Is-Lywydd cwmni Comcast Cable yn Philadelphia yn yr UDA.

Yn dilyn ei phenodiad, dywedodd Siân Doyle: “Trwy fy ngyrfa rwyf wedi cael y fraint o weithio gyda phobl a chwmnïau arbennig a dwi wedi dysgu gymaint ag elwa o brofiadau gwerthfawr.

“Mae fy angerdd dros fy nghydweithwyr ac anghenion defnyddwyr wedi bod yn rhan annatod o fy mhrofiad dros y blynyddoedd.

“Nawr fy mod wedi dychwelyd i Gymru rwy’n edrych ‘mlaen i weithio gyda'r tîm yn S4C ac arwain y sefydliad wrth iddo ymateb yn egnïol i’r newidiadau yn y tirwedd cyfryngau a sicrhau ei fod yn gwneud y gorau o bob cyfle’n chwim.”

Dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd Unedol Cysgodol S4C: “Rydym yn falch iawn i allu penodi arweinydd gyda chyfoeth o brofiad mewn llunio a gweithredu strategaethau uchelgeisiol a llwyddiannus ac o ddeall a bodloni anghenion defnyddwyr.

“Mae angen mentro er mwyn sicrhau bod S4C yn atgyfnerthu ei hun fel darparwr cynnwys creadigol a beiddgar y mae defnyddwyr am ymwneud ag e’ ar draws amrywiaeth o lwyfannau.”

Bydd Siân Doyle yn dechrau yn y rôl ar 1 Ionawr 2022.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.