Covid-19: Ymestyn brechlynnau atgyfnerthu i bobl dros 40 oed
Bydd pob person dros 40 oed yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu Covid-19 yng Ngymru maes o law.
Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, y bydd y llywodraeth yn dilyn cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) i gynnig brechlyn atgyfnerthu bobl sy’n 40-49 oed, os oes chwe mis wedi mynd heibio ers eu hail ddos.
Roedd y JCVI wedi cynghori brechu atgyfnerthu ar gyfer oedolion 50 oed a hŷn a hefyd i'r bobl mewn grŵp risg uchel o gael Covid-19.
Caiff y brechlynnau atgyfnerthu eu cynnig i grwpiau penodol i'w helpu i gynnal lefelau uchel o amddiffyniad rhag Covid-19.
Ail frechlyn i blant 16 a 17 oed
Mae'r JCVI hefyd wedi argymell y dylid cynnig ail ddos o’r brechlyn i bobl 16-17 mlwydd oed nad ydynt mewn grŵp ‘risg uwch’.
Y cyngor meddygol yw eu bod yn derbyn ail ddos 12 wythnos neu fwy yn dilyn dos cyntaf y brechlyn.
I’r bobl ifanc sydd wedi cael haint Covid-19 ar unrhyw adeg ar ôl cael eu dos cyntaf o frechlyn, dylid rhoi’r ail ddos o frechlyn 12 wythnos neu ragor ar ôl yr haint Covid-19.
Dywedodd yr Athro Wei Shen Lim, Cadeirydd Imiwneiddio Covid- 19 JCVI: "Mae dosau brechlyn atgyfnerthu mewn oedolion sydd yn fwy agored i niwed, a dosau ail frechlyn ymhlith pobl ifanc 16 - 17 oed yn ffordd bwysig o gynyddu ein hamddiffyniad rhag haint Covid-19.
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd penderfyniad ynglŷn â chynnig pigiad atgyfnerthu Covid-19 i bobl 18-39 oed yn cael ei wneud, “pan ddaw rhagor o dystiolaeth i law i ddangos a yw effaith y brechlynnau’n gwanhau yn y grŵp hwn".
“Ein bwriad, a hynny ers dechrau’r pandemig, yw dilyn y dystiolaeth glinigol a gwyddonol ac felly rydym yn derbyn cyngor y JCVI."
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cyhoeddiad ond yn galw ar y llywodraeth i ddarparu canolfannau cerdded mewn i bobl gael eu brechlyn atgyfnerthu.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda GIG Cymru i weithredu ar gyngor y JCVI ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.