Cymru'n myfyrio ar Sul y Cofio
Daeth Cymru ynghyd mewn digwyddiadau a gwasanaethau ar hyd y wlad ar Sul y Cofio.
Bu pobl yn cwrdd mewn addoldai a ger cofebau i gofio’r rhai fu farw mewn rhyfeloedd mewn dwy funud o dawelwch am 11:00.
Yng Nghaerdydd, fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford osod torch yng Ngwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays.
Wrth baratoi ar gyfer y gwasanaeth, dywedodd y Prif Weinidog: "Mae cyfnod y Cofio yn rhoi cyfle i ni i gyd dalu teyrnged i'r rhai a wasanaethodd ein Lluoedd Arfog.
“Fel Llywodraeth rydym yn cydnabod aberth y rhai sydd wedi'u colli mewn rhyfeloedd, neu wedi dioddef anafiadau i sicrhau bod gennym y rhyddid yr ydym yn ei fwynhau heddiw.
Heddiw, cefais y fraint o ymuno ag eraill yng Nghofeb Rhyfel Cenedlaethol Cymru i osod torch i gofio pawb sydd wedi gwasanaethu eu gwlad, ddoe a heddiw.
— Mark Drakeford (@PrifWeinidog) November 14, 2021
Wnawn ni byth anghofio eu haberth.#SulyCofio pic.twitter.com/RJCnl6U726
Cafodd gwasanaethau eu cynnal yn Wrecsam, Aberystwyth ac Abertawe.
Ym Mangor, roedd Gwasanaeth Coffa arbennig am 10am yng Nghadeirlan Deiniol Sant gyda’r gwasanaeth yn cloi wrth y Gofeb.
Roedd gwasanaeth gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a Chyngor Tref Pontypridd ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.
Sul y Cofio 2021 Remembrance Sunday pic.twitter.com/rv5fHhvzDr
— CarmarthenTCouncil (@CarmarthenTownC) November 14, 2021
Cafodd gorymdaith ei threfnu yng nghanol tref Caerfyrddin hefyd.
‘Amser i fyfyrio yn dawel’
Ar drothwy Sul y Cofio, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price: “Heddiw, ar Sul y Cofio, talwn deyrnged i bob un sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfel a gwrthdaro.
“Dylai coffadiadau roi cyfle i adlewyrchu, i aros am ennyd a chofio'r rheiny sydd wedi dioddef a sydd wedi marw mewn rhyfeloedd trwy gydol ein hanes. Nid amser i ddathlu yw hwn, dim ond amser i fyfyrio yn dawel.
“Cofiwn a chefnogwn rheini sydd wedi ymladd mewn gwrthdaro wrth inni ymdrechu tuag at ddyfodol o heddwch a ffyniant - gan addo na fydd ein plant byth eto yn gorfod wynebu erchyllion rhyfel fel cenedlaethau'r gorffennol.
Dywedodd Gweinidog Cysgodol dros Gyfiawnder Cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood: “Ry’n ni’n cofio’r dynion a’r menywod dewr sydd wedi gwasanaethu ein gwlad, amddiffyn ein rhyddid a’n cadw’n ddiogel.
“Mae Sul y Cofio’n adeg i adlewyrchu a chlywed straeon am ddewrder, gorfoledd, trasiedi ac aberth – a dyna fydda i’n gwneud heddiw.”
Ychwanegodd Mark Isherwood ei fod yn diolch yn arbennig i’r Lleng Frenhinol sydd yn nodi canmlwyddiant o gefnogi’r Lluoedd Arfog eleni.
Prif lun: @PrifWeinidog drwy Twitter