Newyddion S4C

Arolwg yn gofyn i ddisgyblion ddisgrifio eu cyrff yn 'amharchus ac ansensitif'

Newyddion S4C 12/11/2021

Arolwg yn gofyn i ddisgyblion ddisgrifio eu cyrff yn 'amharchus ac ansensitif'

Mae cwestiwn arolwg sy'n gofyn i ddisgyblion ysgol ddisgrifio delwedd eu corff wedi ei ddisgrifio fel un "ansensitif" ac "amharchus".

Mae'r dewisiadau yn cynnwys "llawer rhy dew", "llawer rhy denau" a "tua'r maint cywir".

Yn ôl Holly Rhys-Ellis, 26, a gafodd anhwylderau bwyta pan yn 11, dydi'r cwestiwn "ddim yn ddefnyddiol" o gwbl.

Fe wnaeth Prifysgol Caerdydd, fu'n ymwneud â chomisiynu'r arolwg, gydnabod y bydd gan rai rhieni a phlant bryderon.

Image
S4C
Cafodd Holly Rhys-Ellis anhwylderau bwyta pan yn 11 oed. 

Bu Holly o Gaerfyrddin yn yr ysbyty am chwe mis oherwydd ei anhwylder bwyta.

Dywedodd: "Pam i ni ddim yn canolbwyntio mwy ar rinweddau pobl, diddordebau nhw, fel maen nhw'n teimlo yn ei hunain? Falle canolbwyntio mwy ar bethau fel 'na na fel mae pobl yn edrych.

"Wedyn os mae pobl yn teimlo bod pobl yn dew neu'n denau neu beth bynnag, i gael y sgwrs 'na gyda nhw os maen nhw'n dod a fe lan ei hunain. Ddim i roi'r geiriau 'na yn eu hwynebau nhw."

Cafodd yr arolwg ei yrru i blant rhwng 11-16 a'i gynnal gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion - partneriaeth gan Brifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cafodd ei anfon i 210 o ysgolion i ddarparu data i'r llywodraeth er mwyn deall materion iechyd sy'n wynebu pobol ifanc.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C , dywedodd cyn Aelod Seneddol Cymru, Bethan Sayed: "Does dim angen gofyn i rywun os maen nhw'n meddwl bod nhw'n rhy dew neu'n rhy denau. Yr oedran yna mae plant yn mynd trwy gymaint o newidiadau i'w corff, mae'n ansensitif iawn i unrhyw fudiad neu unrhyw gorff i ofyn cwestiwn felly.

"Mae 'na gymaint o bethe sydd yn anghywir am hwn a dwi rili ddim yn hapus bod hyn yn mynd mas i bobl ifanc Cymru."

Mae'r Comisiynydd Plant yng Nghymru'r Athro Sally Holland yn dweud ei bod yn deall y pryder mae'r cwestiwn wedi ei achosi, "yn enwedig o ystyried sensitifrwydd y pwnc a'r cysylltiad cryf gydag iechyd meddwl".

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Mae'r cwestiwn yn un o nifer yn yr arolwg sy'n edrych ar ganlyniadau iechyd a lles ac mae'n cyfrannu i'n dealltwriaeth a'n hymateb cenedlaethol, lleol a rhanbarthol i'r materion iechyd a lles sy'n wynebu pobol ifanc yng Nghymru.

"Mae rhieni yn derbyn llythyr gyda manylion o'r arolwg, sut i dderbyn rhagor o wybodaeth neu i drafod unrhyw bryderon gyda'r tîm arolwg a chyfarwyddiadau fel nad oes rhaid i'w plentyn gymryd rhan yn yr arolwg."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.