Tresmaswr gêm rygbi Cymru a De Affrica wedi derbyn gorchymyn cymunedol

NS4C 12/11/2021

Mae’r dyn wnaeth redeg ar y cae yn ystod gêm rygbi Cymru a De Affrica ddydd Sadwrn wedi cael ei gosbi gan Heddlu’r De.

Ar ôl cael ei gwestiynu gan yr heddlu fore Gwener, mae’r dyn 28 oed wedi derbyn gorchymyn datrysiad cymunedol gan y llu.

Mae datrysiad cymunedol yn cael ei ddefnyddio pan fydd troseddwr yn derbyn cyfrifoldeb am yr hyn mae wedi ei wneud, ac yn ffordd o ddelio gyda throsedd llai difrifol.

Bydd yn rhaid i’r dyn gydymffurfio gyda’r datrysiad cymunedol er mwyn osgoi cael ei erlyn.

Fe redodd y dyn ar y cae gan atal llwybr Liam Williams wrth iddo redeg am y llinell gais, a gwylltio cefnogwyr Cymru yn y stadiwm.

Mae Heddlu’r De wedi defnyddio’r cyhoeddiad fel rhybudd yn erbyn unrhyw un sy’n meddwl efelychu’r hyn wnaeth y dyn ddydd Sadwrn diwethaf.

Dywedodd y Dirprwy Brif Arolygydd Mark Travis: “Roedd yr hyn welon ni ddydd Sadwrn diwethaf mewn gêm rygbi rhyngwladol mawr yn annerbyniol, ac ni fydd yn cael ei oddef.”

Mae tîm rygbi Cymru yn herio Fiji yn Stadiwm y Principality brynhawn dydd Sul.