Newyddion S4C

Uwchgynhadledd COP26 yn dirwyn i ben yng Nglasgow

12/11/2021
Arweinwyr COP26

Fe fydd uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn dod i ben ddydd Gwener.

Mae arweinwyr y byd wedi bod yn y gynhadledd yng Nglasgow dros y bythefnos ddiwethaf i drafod sut i fynd i'r afael â'r mater.

Roedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Boris Johnson a Phrif Weinidog Cymru Mark Drakeford ymhlith yr arweinwyr sydd wedi bod yn bresennol yn ystod y bythefnos ddiwethaf.

Mae disgwyl i'r arweinwyr sy'n bresennol yn yr uwchgynhadledd i gytuno i gyfres o addewidion ar ddiwrnod olaf y gynhadledd.

Y prif addewidion yn y ddogfen ddrafft yw sicrhau bod gwledydd yn cyflwyno cynlluniau i leihau carbon ymhellach erbyn 2022 ac i sicrhau "o leiaf $100bn y flwyddyn" i gefnogi gwledydd llai i ddatgarboneiddio.

Mae'r ddogfen hefyd yn galw am ddod â'r defnydd o lo a thanwydd ffosiledig i ben. 

'Cadw 1.5C yn fyw'

Roedd y digwyddiad a gafodd ei drefnu gan y Cenhedloedd Unedig wedi gobeithio gallu sicrhau addewidion mwy pendant gan arweinwyr y byd yn dilyn Cytundeb Hinsawdd Paris 2015.

Roedd y gwledydd a arwyddodd y cytundeb hwnnw yn cytuno i geisio cadw'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang ymhell o dan 2C o gymharu â lefelau cyn yr oes ddiwydiannol.

Roedd y cytundeb yn pwysleisio'r angen i fynd ymhellach fyth ac anelu i gyfyngu'r cynnydd i 1.5C - ac roedd hynny yn un o brif flaenoriaethau'r uwchgynhadledd yng Nglasgow, i "gadw 1.5C yn fyw". 

Roedd datgarboneiddio a sicrhau bod y byd yn Sero-Net erbyn canol y ganrif hefyd yn un o'r prif bynciau trafod.

Image
Drakeford COP
Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn bresennol am rai o'r trafodaethau yn COP26.

'Yr her fwyaf'

Roedd gweinidogion o Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y Prif Weinidog Mark Drakeford, yn bresennol yng Nglasgow am rai o'r trafodaethau.

Dywedodd Mr Drakeford fod y gynhadledd yn gyfle i drafod gyda gwledydd eraill ac "i rannu beth ni'n neud yng Nghymru".

"Ond hefyd i glywed beth mae gwledydd eraill yn ei wneud, er mwyn tynnu gwersi mas o hynny a dod yn ôl 'da nhw i Gymru i helpu ni gyd i wneud popeth allwn ni i wynebu'r her fwyaf sydd da' ni." 

Fe arwyddodd Llywodraeth Cymru gytundeb ar y cyd â 10 o genhedloedd a rhanbarthau eraill ddydd Iau sy'n nodi y bydd y gwledydd hynny yn addo dod ag archwilio olew a nwy i ben erbyn 2035.

Roedd y gwledydd a arwyddodd y cytundeb gyda Chymru yn cynnwys Denmarc, Costa Rica, Ffrainc ac Iwerddon.

Mae'r bythefnos ddiwethaf hefyd wedi gweld nifer o brotestiadau ar draws y wlad i godi ymwybyddiaeth am newid hinsawdd.

Bu'r ymgyrchydd Greta Thunberg yn annerch torf a ymgasglodd yng Nglasgow i brotestio dros y penwythnos.

Mae Ms Thunberg eisoes wedi dweud fod COP26 yn "bythefnos o ddathlu busnes fel yr arfer a blah blah blah".

Mae rhai ymgyrchwyr yn poeni na fydd y ddogfen derfynol yn ddigon i fynd i'r afael newid hinsawdd. 

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Rhian Barrance o Wrthryfel Dyfodiant bod addewidion "ddim yn mynd yn ddigon pell".

"Mae 25 ohonyn nhw wedi bod o'r blaen, felly mae'n anodd ymddiried yn ein harweinwyr i wireddu'r addewidion yma."

Fe fydd y diweddaraf o ddiwrnod olaf cynhadledd COP26 ar wasanaeth Newyddion S4C.

Llun: Andrew Parsons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.